Lansio gwelliannau i’r gwasanaeth cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Mae cwsmeriaid sydd ag incwm i’w ddatgan ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad nawr.
-
Gwelliannau i’r gwasanaeth ar-lein sy’n ei gwneud hi’n haws cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
-
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF cyn gynted â phosibl os nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach, neu os ydych yn newydd i’r broses Hunanasesiad mae’n rhaid rhoi gwybod erbyn 5 Hydref.
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi lansio gwelliannau i’r gwasanaeth cofrestru sy’n ei gwneud hi’n haws cofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Gall unrhyw un ddefnyddio offeryn gwirio ar-lein CThEF, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar GOV.UK, i ddysgu a oes angen cyflwyno Ffurflen Dreth a chael gwybod am unrhyw gamau y bydd angen i’w cymryd. Gwnaeth dros 640,000 o gwsmeriaid gofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn ystod y 12 mis cyn 31 Mawrth 2026.
Bydd yn rhaid i’r sawl y mae angen iddynt gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad am y tro cyntaf ar gyfer 2025 i 2026 gofrestru erbyn 5 Hydref 2026, neu gallent wynebu cosb. Gallan nhw gofrestru drwy GOV.UK.
31 Ionawr 2027 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r sawl sydd ag incwm i’w ddatgan gofrestru ar gyfer Hunanasesiad cyn iddynt ddechrau llenwi eu Ffurflen Dreth, os nad ydynt wedi cofrestru eisoes.
Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:
Mae’n bosibl na fydd y sawl sy’n newydd i Hunanasesiad yn ymwybodol bod angen iddynt gofrestru cyn cyflwyno’u Ffurflen Dreth. Erbyn hyn, mae cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn haws ac yn gyflymach nag erioed. Os byddwch yn mynd ati i gofrestru nawr, byddwch yn cael eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr fel y gallwch ddechrau llenwi eich Ffurflen Dreth mewn da bryd cyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr.
Mae’r gwelliannau a wnaed i system cofrestru ar-lein CThEF yn golygu bod y sawl sy’n newydd i Hunanasesiad yn gallu cofrestru’n gyflym ac yn hawdd drwy eu Cyfrif Treth Personol. Mae’r broses symlach hon yn cynnwys:
- ffurflenni sy’n rhag-lenwi gwybodaeth y cwsmer
- cyfeirio’r cwsmer at gymorth ar-lein yn ystod y broses gofrestru
- nodweddion sy’n cadw’r ffurflen ac yn rhoi’r gallu i ddychwelyd ati heb golli unrhyw ddata
- anfon neges testun neu e-bost i gadarnhau bod y cwsmer wedi cwblhau’r broses gofrestru
Ar ôl cofrestru, bydd pob cwsmer yn cael Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) er mwyn gallu dechrau llenwi eu Ffurflen Dreth. Bydd y sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth newydd yn gweld eu UTR ar eu cyfrif ar-lein cyn pen 72 awr, yn hytrach nag aros 15 diwrnod amdano i gyrraedd drwy’r post.
Gall cwsmeriaid greu Cyfrif Treth Personol gan ddefnyddio’u manylion mewngofnodi ar gyfer Porth y Llywodraeth neu GOV.UK One Login. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i GOV.UK.
I weld rhestr lawn o’r rhesymau pam y gallai fod angen i chi lenwi Ffurflen Dreth, ewch i GOV.UK. Mae’r rhesymau hyn yn cynnwys y canlynol:
- rydych yn newydd hunangyflogedig ac wedi ennill incwm gros dros £1,000
- gwnaethoch ennill llai na £1,000 ac yn dymuno talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn wirfoddol i amddiffyn eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau penodol
- rydych yn bartner newydd mewn partneriaeth fusnes
- rydych wedi cael unrhyw incwm sydd heb ei drethu sydd dros £2,500
Os nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth mwyach, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i CThEF cyn gynted â phosibl. Os na wnewch hynny, byddwch yn wynebu cosb am beidio â chyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Dylech barhau i fodloni’ch ymrwymiadau Hunanasesiad hyd nes bod CThEF yn cadarnhau nad oes angen i chi gyflwyno Ffurflenni Treth mwyach. Dysgwch sut i wneud hyn ar GOV.UK.
Rhagor o Wybodaeth
Mae gwybodaeth am sut i lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ac arweiniad pellach ar gael ar GOV.UK.
Mae’r gwasanaeth cofrestru ar-lein ar gael i gwsmeriaid unigol sydd â Chyfrif Treth Personol. Mae’n rhaid i asiantau barhau i ddefnyddio’r broses bresennol o gofrestru, sef llenwi ffurflen CWF1 neu ffurflen SA1.
Mae’r lwfans masnachu o £1,000 yn golygu nad oes angen i unrhyw un sy’n ennill llai na £1,000 mewn blwyddyn dreth ddatgan hynny na thalu treth arno.
Erbyn hyn, bydd manylion talu Budd-dal Plant tua 300,000 o gwsmeriaid Hunanasesiad, neu fanylion eu partner, wedi’u rhag-lenwi ar eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n gyflymach ac yn haws i’r cwsmeriaid hynny sy’n agored i dalu’r Tâl Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC) lenwi eu Ffurflen Dreth yn gywir.
Mae’n bosibl y bydd y sawl sydd ond yn llenwi Ffurflenni Treth er mwyn talu’r tâl yn gallu gwneud y taliad hwnnw drwy wasanaeth digidol TWE. Mae’r gwasanaeth hwn yn syml i’w ddefnyddio ac yn cynnig ffordd hawdd i dalu’r tâl yn fisol drwy’ch cyflog gan ddiweddaru’ch cod treth. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth digidol HICBC TWE, ewch i GOV.UK.
Bydd yn rhaid i gwsmeriaid sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad ailactifadu eu cyfrif os na wnaethant gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, a bod angen iddynt gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026.
Mae’n rhaid i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm barhau i gyflwyno’u Ffurflen Dreth Hunanasesiad a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2027.
Bydd cwsmeriaid Hunanasesiad a gafodd y Taliad Tanwydd Gaeaf, neu’r Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn yn yr Alban, yn gweld bod eu Taliad Tanwydd Gaeaf wedi’i rag-lenwi yn eu Ffurflen Dreth ar-lein ar gyfer 2025 i 2026. Y dyddiad cau ar gyfer hyn yw 31 Ionawr 2027. Os nad yw’r taliad hwn yn ymddangos, bydd yn rhaid i’r cwsmeriaid nodi’r taliad â llaw. Bydd angen i’r sawl sy’n cyflwyno ar bapur gynnwys y taliad hwn ar eu Ffurflen Dreth bapur. Y dyddiad cau ar gyfer hyn yw 31 Hydref 2026. Bydd cwsmeriaid sydd ag incwm dros £35,000 yn ad-dalu’r taliad hwn drwy eu bil treth Hunanasesiad.
Os nad ydych am gael y Taliad Tanwydd Gaeaf, mae gennych hyd at 23:59 ar 20 Medi 2026 i optio allan. Os nad yw cwsmeriaid yn yr Alban am gael y Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn, mae ganddynt hyd at ganol dydd ar 19 Hydref 2026 i optio allan.