Y Swyddfa Brisio: ymholiadau
Cysylltwch â’r Swyddfa Brisio am help gyda Threth Gyngor, ardrethi busnes, llety gwyliau hunanddarpar, Lwfans Tai Lleol neu renti teg.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’ch bil. Ni all y Swyddfa Brisio ateb cwestiynau am eich bil Treth Gyngor na’ch bil ardrethi busnes.
Ar-lein
Os yw’ch eiddo yng Nghymru neu Loegr, cysylltwch â’r Swyddfa Brisio ar-lein.
Os yw’ch eiddo yn yr Alban, gwelwch fanylion cyswllt ar wefan y Scottish Assessors.
Os yw’ch eiddo yng Ngogledd Iwerddon, gwelwch fanylion cyswllt y Gwasanaethau Tir ac Eiddo ar wefan yr Adran Cyllid (Gogledd Iwerddon).
Ymholiadau Treth Gyngor
Cyn i chi gysylltu â ni, gallwch wneud y canlynol:
-
dysgu sut mae herio’ch band Treth Gyngor
-
gwirio pa mor hir y bydd hi’n ei chymryd i chi gael ymateb ar ôl i chi gyflwyno her o’ch band Treth Gyngor
Ymholiadau ardrethi busnes
Cyn i chi gysylltu â ni, gallwch wneud y canlynol:
-
dysgu sut mae herio prisiad ardrethi eich busnes
-
anfon manylion eich rhent, prydles neu berchnogaeth at y Swyddfa Brisio os byddwn yn gofyn am wybodaeth am eiddo eich busnes
Ffôn
Galwch y Swyddfa Brisio os oes angen help arnoch gyda’r canlynol:
-
Treth Gyngor
-
ardrethi busnes
-
llety gwyliau hunanddarpar
-
Budd-dal Tai a Lwfansau Tai Lleol
-
rhenti teg
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Mawrth: 9am tan 4:30pm
Dydd Mercher: 10am tan 4:30pm
Dydd Iau i ddydd Gwener: 9am tan 4:30pm
Ar gau yn ystod gwyliau banc
Dysgwch ragor o wybodaeth am gostau galwadau
Dysgwch sut i gael help gan y Swyddfa Brisio os oes angen cymorth ychwanegol arnoch oherwydd cyflwr iechyd neu amgylchiadau personol.