Trosolwg

Mae bandiau Treth Gyngor yn seiliedig ar werth yr eiddo ar y dyddiadau canlynol:

  • 1 Ebrill 1991, ar gyfer Lloegr a’r Alban
  • 1 Ebrill 2003, ar gyfer Cymru

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch herio’ch band Treth Gyngor os bu newid sy’n effeithio ar yr eiddo neu os ydych chi’n meddwl bod eich band yn anghywir.

Ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr, rydych yn cyflwyno eich her i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Yn yr Alban, rydych chi’n cyflwyno’ch her i aseswr sydd wedi’i leoli yn eich Bwrdd Prisio ar y Cyd neu Gyngor lleol. Dod o hyd i Aseswr Albanaidd ar wefan Cymdeithas Aseswyr yr Alban.

Os bu newid sy’n effeithio ar yr eiddo

Gallwch gynnig band newydd os bu newid sy’n effeithio ar yr eiddo. Mae’n rhaid i un o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • os yw eich eiddo wedi newid - er enghraifft, mae wedi cael ei ddymchwel, ei rannu’n eiddo lluosog neu wedi’i uno i fod yn un
  • mae defnydd eich eiddo wedi newid - er enghraifft, mae rhan o’ch eiddo bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes
  • mae eich ardal leol wedi newid yn ffisegol - er enghraifft, mae archfarchnad newydd wedi’i hadeiladu

Os ydych o’r farn bod eich band yn anghywir

Gallwch hefyd herio’ch band Treth Gyngor os na fu unrhyw newidiadau i’r eiddo yn ddiweddar ond rydych chi’n meddwl bod y band yn anghywir.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ategol sy’n dangos pam eich bod yn credu bod eich eiddo yn y band anghywir - er enghraifft, manylion am eiddo sy’n debyg i’ch eiddo chi ond mewn bandiau treth is.