Sut i herio

Ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i wneud her. Gallwch ddefnyddio hwn p’un a oes gennych hawl gyfreithiol i herio ai peidio.

Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich achos.

Dechrau nawr

Rhaid i chi barhau i dalu y Dreth Gyngor tra bod eich her yn cael ei hadolygu.

Herio ar ran rhywun arall

Gallwch herio band Treth Gyngor rhywun ar eu rhan os ydynt wedi eich apwyntio fel ‘cynrychiolydd’ mewn ffurflen Awdurdod i Weithredu.

Yn dilyn hyn, bydd angen i chi lenwi Ffurflen herio Treth Gyngor ar eu rhan – gallwch ddefnyddio y gwasanaeth ar-lein.

Anfonwch y ddwy ffurflen wedi’u cwblhau i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) ar e-bost neu drwy’r post, gyda’i gilydd ar yr un pryd.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

I ofyn am gael gwared ar eiddo oddi ar restr y Dreth Gyngor, bydd angen i chi lenwi ffurflen herio’r Dreth Gyngor yn lle hynny.

Gallwch herio’ch band Treth Gyngor drwy anfon e-bost at:

ctinbox@voa.gov.uk

Gallwch hefyd gael cymorth ychwanegol gan y VOA os oes angen help arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.