Canllawiau

Ffurflen herio band y Dreth Gyngor

Llenwch y ffurflen hon a’i hanfon i Asiantaeth y Swyddfa Brisio er mwyn herio eich band Dreth Gyngor.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Cyn i chi herio

Rhaid i chi fedru profi:

  • mae chi yw perchennog yr eiddo
  • fod gennych yr hawl i gynrychioli’r perchennog neu’r meddiannydd

Os ydych yn cyflwyno her ar ran rhywun arall, rhaid llenwi ffurflen awdurdod i weithredu hefyd, ac anfon y ddwy ffurflen gyda’i gilydd i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB). Os nad ydych yn anfon y ddwy ffurflen ar yr un pryd, efallai y bydd eich her yn cael ei nodi fel un annilys.

Gallwch hefyd gyflwyno her band Treth Gyngor ar-lein, ac eithrio pan y byddwch yn cyflwyno her ar ran rhywun arall.

Os ydych eisiau ychwanegu eiddo i restr brisio’r Dreth Gyngor, cysylltwch â’ch cyngor lleol.

Dewch o hyd i ba dystiolaeth i’w gyflwyno pan:

Sut i lenwi’r ffurflen

Gallwch naill ai:

  • lawrlwytho’r ffurflen berthnasol a’i llenwi ar y sgrin
  • argraffu’r ffurflen a’i llenwi â’ch llaw

Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio wrth i chi ei hagor yn eich porwr. I agor y ffurflen fe fydd angen i chi:

  1. Lawrlwytho ac arbed y ffurflen ar eich cyfrifiadur.

  2. Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf rhad ac am ddim o Adobe Reader.

Ffurflen gynnig y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo yng Nghymru

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Ble i anfon y ffurflen

Atodwch y ffurflen wedi’i chwblhau i e-bost. Anfonwch yr e-bost at ctonline@voa.gov.uk.

Efallai y byddech yn hoffi anfon y ffurflen wedi’i chwblhau drwy’r post i:

Valuation Officer
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Hydref 2025

Argraffu'r dudalen hon