Rhoi awdurdod i weithredu ar gyfer heriau i’r Dreth Gyngor
Llenwch ffurflen i roi awdurdod i rywun arall i herio eich band Treth Gyngor ar eich rhan.
Anfonwch y ffurflen hon i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) er mwyn apwyntio rhywun arall i herio eich band Treth Gyngor ar eich rhan. Gall y person hwn fod yn asiant, ffrind neu aelod o’r teulu.
Bydd hyn hefyd yn rhoi awdurdod i ASB rannu gwybodaeth am yr eiddo gyda’r person yr ydych wedi’i enwi. Mi fydd hefyd yn cynnwys unrhyw gyswllt yr ydych wedi ei gael gyda ASB am yr eiddo yn y gorffennol.
Mae’r ffurflen hon yn diystyru unrhyw awdurdod blaenorol a roddwyd i ASB. Byddwn yn dal yr awdurdod yma nes y byddwch naill ai:
- yn dweud yn wahanol wrthym
- yn rhoi gwybodaeth inni fod y manylion wedi newid
- yn anfon ffurflen wedi’i diweddaru atom
Rhaid i chi lenwi Ffurflen herio y Dreth Gyngor ac anfon y ddwy ffurflen gyda’i gilydd i ASB. Os nad ydych yn anfon y ddwy ffurflen ar yr un pryd, efallai y bydd eich her yn cael ei nodi fel un annilys.
Sut i lenwi’r ffurflen
Gallwch naill ai:
- lawrlwytho’r ffurflen a’i llenwi ar y sgrin
- argraffu’r ffurflen a’i llenwi â’ch llaw
Ble i anfon y ffurflen
Atodwch y ffurflen wedi’i chwblhau i e-bost. Anfonwch yr e-bost at ctonline@voa.gov.uk.
Efallai y byddech yn hoffi anfon y ffurflen wedi’i chwblhau drwy’r post i:
Valuation Officer
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW