Ar ol i chi wneud her

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cadarnhau ei bod wedi derbyn eich her. Mae hyn fel arfer o fewn ychydig ddyddiau, ond weithiau gall gymryd hyd at 28 diwrnod.

Bydd yn adolygu eich her ac yn gwneud penderfyniad. Gall hyn gymryd hyd at 6 mis pan fydd gennych hawl gyfreithiol i herio (‘gwneud cynnig’).

Os ydych wedi cyflwyno her oherwydd eich bod o’r farn fod eich eiddo yn y band anghywir ond nad oes gennych hawl gyfreithiol i herio (‘adolygiad band’), gall hyn gymryd hyd at 12 mis.

Os oes angen rhagor o wybodaeth ar y VOA, bydd yn cysylltu â chi.

Pan fydd wedi gorffen yr adolygiad, bydd yn gwneud un o’r canlynol:

  • newid eich band Treth Gyngor a rhoi wybod i’ch cyngor lleol - bydd eich cyngor yn adolygu eich bil ac yn talu unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus
  • tynnu eich eiddo oddi ar restr y Dreth Gyngor - gwiriwch beth sy’n digwydd ar ôl i eiddo gael ei ddileu
  • ychwanegu eich eiddo at restr y Dreth Gyngor - byddwch yn cael band newydd
  • dweud wrthych pam na ellir newid eich band

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad

Dim ond os oedd gennych hawl gyfreithiol i herio (‘gwneud cynnig’) y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

Yng Nghymru, nid oes angen ichi wneud dim. Bydd eich her yn cael ei hanfon yn awtomatig at Tribiwnlys Prisio Cymru os na fyddwch yn ymateb i’r penderfyniad.

Yn Lloegr, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Prisio. Mae’r Tribiwnlys Prisio yn annibynnol ar y VOA. Mae’n rhad ac am ddim, ond mae’n rhaid i chi dalu eich costau eich hun.

Fel arfer mae angen i chi apelio o fewn 3 mis i gael y penderfyniad.

Efallai y gallwch gael y terfyn amser wedi’i ymestyn mewn rhai amgylchiadau. Bydd angen i chi esbonio pam fod angen estyniad arnoch ar y ffurflen apêl.

Os bydd y tribiwnlys yn cytuno â chi, bydd y VOA yn newid eich band a bydd y cyngor yn diweddaru eich bil.

Cymorth

Os ydych yn Lloegr, mae gan y Tribiwnlys Prisio ganllawiau ar:

Os ydych chi yng Nghymru, mae gan Dribiwnlys Prisio Cymru canllawiau ar y broses apelio.

Gallwch hefyd gysylltu â’r tribiwnlys am gymorth.

Tribiwnlys Prisio
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Dydd Llun i ddydd Mawrth, 9am i 4:30pm
Dydd Mercher, 10am i 4:30pm
Dydd Iau i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau