Cael cymorth ychwanegol gan y VOA
Dysgwch sut i gael help gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) os oes angen cymorth ychwanegol arnoch oherwydd cyflwr iechyd, anabledd neu amgylchiadau personol.
Os na allwch greu cyfrif na mewngofnodi i gyfrif
Gall y Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) eich helpu gyda gwasanaethau ar-lein:
- os nad oes gennych gyfeiriad e-bost
- os ydych yn ei chael hi’n anodd defnyddio gwasanaethau ar-lein oherwydd anabledd neu amgylchiadau eraill
- os oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth (gallai hwn fod hyd at 12 o gymeriadau) ac nid oes modd i chi greu cyfrif na mewngofnodi i gyfrif
Cysylltwch â’r VOA dros y ffôn i ofyn am help gyda gwasanaethau ar-lein, neu anfonwch e-bost i ccaservice@voa.gov.uk.
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Dydd Llun i ddydd Mawrth, 9am i 4:30pm
Dydd Mercher, 10am i 4:30pm
Dydd Iau i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm
Os ydych yn mewngofnodi i’ch cyfrif gan ddefnyddio One Login
Os ydych yn defnyddio gwasanaethau ar-lein y VOA drwy GOV.UK One Login (eich cyfeiriad e-bost yw eich enw defnyddiwr), dylech gysylltu â GOV.UK One Login.
Os nad oes gennych y dogfennau cywir i greu cyfrif prisio ardrethi busnes
Os na allwch greu cyfrif oherwydd nad oes gennych y dogfennau adnabod gofynnol, gall rhywun arall yn eich sefydliad wneud un o’r canlynol:
-
creu cyfrif i’ch sefydliad
-
eich ychwanegu at y cyfrif yn weinyddwr fel y gallwch reoli’r cyfrif
Os nad ydych yn rhan o sefydliad, neu nad oes neb yn eich sefydliad yn gallu creu cyfrif, gallwch benodi cynorthwyydd dibynadwy i greu cyfrif ar eich rhan. Gallai cynorthwyydd dibynadwy fod yn ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n sefydliad gwirfoddol. Gall greu cyfrif a’ch ychwanegu at y cyfrif yn weinyddwr fel y gallwch reoli’r cyfrif.
Os oes angen rhywun arnoch i siarad â’r VOA ar eich rhan
Os oes angen cyfieithydd ar y pryd arnoch
Gallwch ddefnyddio ffrind neu aelod o’r teulu fel cyfieithydd ar y pryd pan fyddwch yn ffonio’r VOA. Mae’n rhaid i’r unigolyn fod dros 16 oed, a bydd angen iddo fod yn yr un ystafell â chi pan fyddwch yn ein ffonio ni.
Gall y VOA hefyd drefnu cyfieithydd ar y pryd ar eich cyfer. Rhowch wybod i’r VOA fod angen cyfieithu ar y pryd arnoch, gan ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar-lein neu dros y ffôn.
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Dydd Llun i ddydd Mawrth, 9am i 4:30pm
Dydd Mercher, 10am i 4:30pm
Dydd Iau i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm
Os hoffech fod rhywun yn rheoli’ch ardrethi busnes ar eich rhan
Gallwch benodi asiant i reoli’ch ardrethi busnes ar eich rhan. Gallai’ch asiant ardrethi busnes fod yn asiant ardrethu, ffrind neu aelod o’r teulu. Bydd angen eich cyfrif prisio ardrethi busnes eich hun er mwyn penodi asiant.
Os hoffech fod rhywun yn herio’ch band Treth Gyngor ar eich rhan
Llenwch ffurflen awdurdod i weithredu os hoffech fod rhywun yn herio’ch band Treth Gyngor ar eich rhan.
Mae’n rhaid i’r unigolyn sy’n cyflwyno’r her hefyd lenwi ffurflen herio’r Dreth Gyngor ac anfon y ddwy ffurflen at y VOA â’i gilydd. Os na fyddwch yn anfon y ddwy ffurflen â’i gilydd, efallai y bydd eich her yn cael ei hystyried yn annilys.
Os oes angen help arnoch i lenwi ffurflenni
Gall y VOA eich helpu os yw cyflwr iechyd, anabledd neu amgylchiadau eraill yn ei gwneud hi’n anodd i chi lenwi ffurflenni.
Gofynnwch am help gyda llenwi ffurflenni drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar-lein neu dros y ffôn.
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Dydd Llun i ddydd Mawrth, 9am i 4:30pm
Dydd Mercher, 10am i 4:30pm
Dydd Iau i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm
Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol
Gallwch ofyn am gael gwybodaeth mewn fformat gwahanol, gan gynnwys:
- braille
- print bras
- print ar bapur lliw
Cysylltwch â’r VOA dros y ffôn er mwyn gofyn am gael gwybodaeth mewn fformat gwahanol, neu anfonwch e-bost i ccaservice@voa.gov.uk.
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Dydd Llun i ddydd Mawrth, 9am i 4:30pm
Dydd Mercher, 10am i 4:30pm
Dydd Iau i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm
Os na allwch ddefnyddio ffôn
Os ydych yn ei chael hi’n anodd defnyddio ffôn, gallwch ddefnyddio ffurflen gyswllt ar-lein Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).
Iaith Arwyddion Prydain
Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL), llenwch y ffurflen gais am gyfieithydd BSL a’i hanfon at y VOA. Byddwn yn trefnu galwad rhyngoch chi, y VOA a’r cyfieithydd BSL o The Big Word. Byddwn yn eich ateb o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl cael eich ffurflen.
Gallwch lawrlwytho’r ffurflen a’i llenwi ar y sgrin, neu ei hargraffu a’i llenwi.
Anfonwch y ffurflen drwy e-bost i bslrequests@voa.gov.uk. Dim ond ar gyfer ceisiadau am gyfieithwyr BSL y mae’r mewnflwch hwn. Byddwn yn dileu unrhyw e-byst y byddwch yn anfon i’r cyfeiriad e-bost hwn nad ydynt yn ymwneud â BSL. Os hoffech gysylltu â’r VOA am rywbeth arall, ddefnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein.
Gallwch hefyd anfon y ffurflen drwy’r post i:
Valuation Officer / Swyddog Prisio
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW
Os oes angen rhagor o amser arnoch
Efallai y bydd modd i’r VOA ymestyn y dyddiad cau os oes angen rhagor o amser arnoch oherwydd eich amgylchiadau. Gallwch ofyn am ragor o amser os yw’r canlynol yn wir amdanoch:
- rydych yn meddu ar amhariad ar y clyw neu amhariad golwg
- rydych yn meddu ar gyflwr iechyd meddwl, er enghraifft iselder, straen neu orbryder
- rydych yn niwrowahanol
- rydych yn meddu ar anawsterau gwybyddol
- rydych yn profi caledi ariannol
- mae cyflwr arall neu amgylchiadau eraill yn golygu bod angen rhagor o amser arnoch
Gofynnwch i’r VOA am ragor o amser drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar-lein neu dros y ffôn. Efallai y bydd angen i chi brofi pam mae angen rhagor o amser arnoch. Efallai na fydd hi’n bosibl i’r VOA roi rhagor o amser i chi.
Ffôn (Cymru): 03000 505 505
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501
Dydd Llun i ddydd Mawrth, 9am i 4:30pm
Dydd Mercher, 10am i 4:30pm
Dydd Iau i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm