Canllawiau

Penodi cynorthwyydd dibynadwy i reoli’ch gwasanaeth digidol gan y VOA

Penodi cynorthwyydd dibynadwy i greu eich cyfrif prisio ardrethi busnes gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) os nad oes neb yn eich sefydliad yn gallu cofrestru am un.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Pryd i benodi cynorthwyydd dibynadwy

Mae angen i chi greu eich cyfrif prisio ardrethi busnes er mwyn gweld gwerthoedd ardrethol eich eiddo ac adrodd am unrhyw newidiadau i fanylion eich eiddo.

Os na allwch greu cyfrif oherwydd nad oes gennych y dogfennau adnabod gofynnol, gall rhywun arall yn eich sefydliad greu cyfrif ar gyfer eich sefydliad. Wedyn, gall yr unigolyn greu rôl cynorthwyydd i chi yn y cyfrif. Bydd hyn yn eich galluogi chi i fewngofnodi i’r cyfrif a rheoli eich ardrethi busnes.

Os nad ydych yn rhan o sefydliad neu nid oes neb yn eich sefydliad yn gallu creu cyfrif, gallwch benodi cynorthwyydd dibynadwy. Gall eich cynorthwyydd dibynadwy greu cyfrif a rôl cynorthwyydd ar eich cyfer chi. Bydd hyn yn eich galluogi chi i fewngofnodi i’r cyfrif a rheoli eich ardrethi busnes. Gallai cynorthwyydd dibynadwy fod yn ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n sefydliad gwirfoddol. Dim ond un cynorthwyydd dibynadwy y gallwch ei gael ar y tro.

Os na allwch greu cyfrif am ba bynnag reswm, dysgwch sut gallwch gael cymorth ychwanegol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA). Efallai na fydd angen i chi benodi cynorthwyydd dibynadwy.

Sut i lenwi’r ffurflen

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen a’i llenwi ar y sgrin neu argraffu’r ffurflen a’i llenwi.

Dylech lenwi’r ffurflen eich hun. Mae’n rhaid i chi a’ch cynorthwyydd dibynadwy lofnodi’r ffurflen, fel arall ni fyddwn yn derbyn y ffurflen. Gallwch lofnodi’r ffurflen yn ddigidol.

Penodi Cynorthwyydd Dibynadwy

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

I ble y dylech anfon y ffurflen?

Atodwch y ffurflen gyflawn i’ch e-bost. Anfonwch hi i ccaservice@voa.gov.uk.

Os yw’n well gennych, gallwch anfon eich ffurflen gyflawn drwy’r post at:

Trusted Helper / Cynorthwyydd Dibynadwy
Valuation Office Agency
Wycliffe House  
Green Lane  
Durham  
DH1 3UW

Ar ôl penodi cynorthwyydd dibynadwy

Bydd y VOA yn awdurdodi’ch cynorthwyydd dibynadwy i greu cyfrif. Dim ond os bydd angen help wrth greu neu reoli’ch cyfrif y byddwn yn siarad yn uniongyrchol â’ch cynorthwyydd dibynadwy. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw gyswllt arall gan eich cynorthwyydd dibynadwy. Dysgwch sut i gael cymorth ychwanegol gan y VOA. Mae hyn hefyd yn cynnwys pan fo angen rhywun arnoch i siarad â’r VOA ar eich rhan.

Bydd y VOA yn trin pob gweithred yn y cyfrif ar-lein yn weithredoedd gan y perchennog, y meddiannydd neu’r talwr ardrethi.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod unrhyw wybodaeth y bydd rhywun arall yn ei chyflwyno ar eich rhan yn gywir. Os nad yw’n gywir, efallai y bydd angen i chi dalu cosb (yn agor tudalen Saesneg) a thalu unrhyw ardrethi ychwanegol sydd arnoch.

Os na hoffech fod gan y cynorthwyydd dibynadwy fynediad at eich cyfrif mwyach, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. Gofynnwch i’ch cynorthwyydd dibynadwy newid gosodiadau’r cod mynediad yn y cyfrif fel bod y cod yn cael ei anfon atoch chi.

  2. Gofynnwch i’ch cynorthwyydd dibynadwy am fanylion mewngofnodi eich cyfrif.

  3. Newidiwch gyfrinair y cyfrif.

Os na fydd eich cynorthwyydd dibynadwy yn rhoi’r manylion mewngofnodi i chi, yna dylech gysylltu â’r VOA drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar-lein neu drwy ffonio.

Ffôn (Cymru): 03000 505 505 
Ffôn (Lloegr): 03000 501 501 
Dydd Llun i ddydd Mawrth, 9am i 4:30pm 
Dydd Mercher, 10am i 4:30pm 
Dydd Iau i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2025

Argraffu'r dudalen hon