Rhodd Cymorth

Mae cyfrannu drwy gynllun Rhodd Cymorth yn golygu y gall elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau) hawlio 25c ychwanegol am bob £1 a rowch. Ni fydd cost ychwanegol i chi.

Gall elusennau hawlio Rhodd Cymorth ar y rhan fwyaf o gyfraniadau, ond nid yw rhai taliadau (yn Saesneg) yn gymwys.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Mae angen i chi wneud datganiad Rhodd Cymorth er mwyn i’r elusen allu hawlio. Bydd yr elusen neu’r CChAC yn rhoi i chi ffurflen i’w llofnodi (yn Saesneg). Mae’n rhaid i’r elusen feddu ar Gyfeirnod Adran Elusennau CThEF hefyd – gofynnwch i’r elusen neu’r CChAC os nad ydych yn siŵr.

Mae’n rhaid i chi roi datganiad i bob elusen yr ydych am gyfrannu iddi drwy Rodd Cymorth.

Gallwch gynnwys yr holl gyfraniadau o’r 4 blynedd diwethaf. Rhowch wybod i’r elusen am unrhyw flynyddoedd treth pan na wnaethoch dalu digon o dreth.

Os bydd yr elusen neu’r CChAC yn cael rhagor o dreth yn ôl na’r hyn y gwnaethoch ei dalu, efallai y bydd CThEF yn gofyn i chi dalu rhagor o dreth i dalu’r gwahaniaeth.

Talu digon o dreth i fod yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth

Bydd eich cyfraniadau’n gymwys ar yr amod nad ydynt yn fwy na 4 gwaith yr hyn a dalwyd gennych mewn treth yn ystod y flwyddyn dreth honno (6 Ebrill i 5 Ebrill).

Gallai’r dreth fod wedi’i thalu ar eich incwm neu enillion cyfalaf (yn Saesneg).

Bydd rhaid i chi roi gwybod i’r elusennau rydych yn eu cefnogi os byddwch yn peidio â thalu digon o dreth mwyach.

Os ydych chi’n cyfrannu drwy gynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres

Os yw’ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn yn cynnig cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres, bydd unrhyw gyfraniadau a rowch drwy’r cynllun yn cael eu cymryd cyn i Dreth Incwm gael ei didynnu.

Byddwch yn dal i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar swm eich cyfraniad i elusen. Ond ni fyddwch yn talu Treth Incwm ar swm eich cyfraniad i elusen.

Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch

Gallwch hawlio’n ôl y gwahaniaeth rhwng y dreth rydych wedi’i thalu wrth gyfrannu a’r hyn a gafodd yr elusen yn ôl, wrth i chi lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Mae’r un peth yn wir os ydych yn byw yn yr Alban (yn Saesneg). Gwnewch hyn naill ai:

Enghraifft

Rydych chi’n cyfrannu £100 i elusen – mae’r elusen yn hawlio Rhodd Cymorth i wneud eich cyfraniad yn £125. Rydych yn talu treth ar gyfradd o 40%, felly gallwch hawlio £25.00 (£125 x 20%) yn ôl yn bersonol.

Gyda Rhoi Trwy’r Gyflogres, nid ydych yn talu’r gwahaniaeth rhwng y gyfradd dreth uwch a’r gyfradd dreth sylfaenol ar eich cyfraniad.

Cael rhyddhad treth yn gynt

Yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, dim ond pethau o’r flwyddyn dreth flaenorol y byddwch yn rhoi gwybod amdanynt fel arfer.

Ond ar gyfer Rhodd Cymorth, gallwch hefyd hawlio rhyddhad treth ar gyfraniadau a wnewch yn ystod y flwyddyn dreth bresennol (hyd at y dyddiad y byddwch yn anfon eich Ffurflen Dreth), os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • rydych eisiau cael rhyddhad treth yn gynt
  • ni fyddwch yn talu treth ar y gyfradd uwch yn ystod y flwyddyn bresennol, ond gwnaethoch ei thalu yn ystod y flwyddyn flaenorol

Ni allwch wneud hyn os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn methu’r dyddiad cau ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad (31 Ionawr os byddwch yn cyflwyno ar-lein, neu 31 Hydref os byddwch yn cyflwyno drwy’r post)
  • nid yw’ch cyfraniadau’n gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth – ni all eich cyfraniadau o’r ddwy flwyddyn dreth gyda’i gilydd fod yn fwy na 4 gwaith yr hyn a dalwyd gennych mewn treth yn ystod y flwyddyn flaenorol

Os nad oes rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth, cysylltwch â CThEF a gofynnwch am ffurflen P810. Bydd angen i chi ei chyflwyno erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth flaenorol.

Os ydych yn cael Lwfans Pâr Priod

Gall eich lwfans rhydd o dreth gynyddu os ydych yn gwneud cyfraniadau drwy Rodd Cymorth ac yn hawlio Lwfans Pâr Priod.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd eich lwfans yn cael ei addasu’n awtomatig os oes angen gwneud hynny.

Os nad ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, cysylltwch â CThEF i roi gwybod iddo am eich cyfraniadau i elusennau.