Cadw cofnodion

Mae angen i chi gadw cofnodion o gyfraniadau os ydych am hawlio treth yn ôl arnynt.

Cyfraniadau Rhodd Cymorth

Cadwch gofnodion os ydych yn:

Os ydych yn hawlio treth yn ôl drwy’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad neu drwy ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ddiwygio’ch cod treth, cadwch gofnodion sy’n dangos y dyddiad, y swm, ac i ba elusennau rydych wedi cyfrannu.

Tir, adeiladau a chyfranddaliadau

Ar gyfer rhoddion o dir, eiddo neu gyfranddaliadau, mae angen i chi gadw:

  • dogfennau cyfreithiol yn dangos y gwerthiant neu’r trosglwyddiad i elusen
  • unrhyw ddogfennau gan elusen sy’n gofyn i chi werthu tir neu gyfranddaliadau ar ei rhan

Fel arfer mae’n rhaid i chi gadw’ch cofnodion am o leiaf 22 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y maent ar ei chyfer.