Rhyddhad treth wrth i chi gyfrannu i elusen
Gadael rhoddion i elusennau yn eich ewyllys
Mae eich ewyllys yn nodi beth fydd yn digwydd i’ch arian, eiddo a meddiannau ar ôl i chi farw.
Bydd eich cyfraniad naill ai:
- yn cael ei ddidynnu oddi wrth werth eich ystâd cyn i Dreth Etifeddiant gael ei chyfrifo
- yn gostwng eich cyfradd Treth Etifeddiant, os gadewir 10% neu fwy o’ch ystâd i elusen
Gallwch gyfrannu:
- swm penodol
- eitem
- yr hyn sy’n weddill ar ôl i roddion eraill gael eu dosbarthu
Ysgrifennu eich ewyllys
Dysgwch sut i ysgrifennu neu ddiweddaru’ch ewyllys (yn Saesneg), gan gynnwys sut i wneud yn siŵr ei bod yn gyfreithlon.
Cynhwyswch enw llawn yr elusen – gwiriwch gyda’r elusen neu: