Rhyddhad treth wrth i chi gyfrannu i elusen

Neidio i gynnwys y canllaw

Cyfrannu yn uniongyrchol o’ch cyflog neu bensiwn

Os yw’ch cyflogwr, cwmni neu ddarparwr pensiwn personol yn rhedeg cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres, gallwch gyfrannu’n uniongyrchol o’ch cyflog neu bensiwn. Mae hyn yn digwydd cyn i dreth gael ei didynnu oddi wrth eich incwm.

Gofynnwch i’ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn a yw’n rhedeg cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres (yn Saesneg).

Ni allwch gyfrannu i glwb chwaraeon amatur cymunedol (CChAC) drwy gynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres.

Mae’r rhyddhad treth a gewch yn dibynnu ar y gyfradd dreth a dalwch. I gyfrannu £1, rydych yn talu:

  • 80c os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol
  • 60c os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch
  • 55c os ydych yn drethdalwr cyfradd ychwanegol

Mae’r rhyddhad treth a gewch yn wahanol os ydych yn byw yn yr Alban (yn Saesneg). I gyfrannu £1, rydych yn talu:

  • 81c os ydych yn drethdalwr cyfradd cychwyn
  • 80c os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol
  • 79c os ydych yn drethdalwr cyfradd ganolradd
  • 59c os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch
  • 54c os ydych yn drethdalwr cyfradd uchaf