Cofrestru i mewn i’ch cyfrif ad-dalu benthyciad myfyrwyr

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif ad-dalu benthyciad myfyriwr i:

  • wirio’ch balans
  • gwneud taliad un tro
  • trefnu taliadau cerdyn rheolaidd
  • trefnu a diwygio Debydau Uniongyrchol
  • dweud wrth y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) os ydych chi wedi newid eich manylion cyswllt

Os cawsoch arian gan Student Awards Agency Scotland, gallai fod angen i chi ffonio SLC i weithredu’ch cyfrif cyn cofrestru am y tro cyntaf.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen eich:

  • cyfeirnod cwsmer
  • cyfrinair
  • ateb cyfrinachol, er enghraifft enw cyn priodi eich mam

Os nad ydych yn gwybod y rhain, gallwch eu hailosod gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost roedd gennych pan wnaethoch gais am eich benthyciad. Cysylltwch ag SLC os newidioch eich cyfeiriad e-bost.

Gwneud ad-daliad heb gofrestru i’ch cyfrif ad-dalu benthyciadau myfyrwyr

Gallwch wneud ad-daliadau gwirfoddol tuag at eich benthyciad myfyriwr heb gofrestru i’ch cyfrif. Mae hyn yn cynnwys talu trwy:

  • drosglwyddiad banc
  • archeb sefydlog
  • siec