Cael budd-daliadau os ydych yn nesáu at ddiwedd oes
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau
Os ydych chi’n agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch chi’n gallu cael eich budd-daliadau ar gyfradd uwch.
Weithiau gelwir hyn yn ‘rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.
Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych chi 12 mis neu lai i fyw, bydd angen i chi:
- rhoi gwybod am hyn fel newid yn eich amgylchiadau
- gofyn i’ch gweithiwr meddygol proffesiynol lenwi ffurflen (a elwir yn SR1) i gadarnhau eich bod chi’n agosáu at ddiwedd oes
Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am ba mor hir y gallech chi fyw, gallwch dal ofyn a fyddant yn cefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Darganfyddwch sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau os ydych eisoes yn cael:
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
- Lwfans Gweini
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant
- DLA i oedolion
Cyflwyno ffurflen SR1
Gofynnwch i’ch meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol cyflwyno ffurflen SR1. Dim ond gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n gallu cael mynediad i a chwblhau’r ffurflen. Os ydyn nhw’n rhoi’r ffurflen wedi’i chwblhau i chi, mae cyfarwyddiadau ar y ffurflen ynghylch ei anfon trwy’r post.
Dim ond un ffurflen SR1 sydd ei hangen arnoch i’w llenwi, hyd yn oed os ydych chi’n cael mwy nag un budd-dal.
Os ydych chi eisiau copi o’r ffurflen wedi’i chwblhau, gallwch ofyn i’ch gweithiwr meddygol proffesiynol neu ffonio’r ‘llinell ymholiadau PIP’.
Llinell ymholiadau PIP
Ffôn: 0800 121 4433
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 ac yna 0800 121 4433
Gwasanaeth ‘video relay’(Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych chi ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau