Rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai

Daw’r atwrneiaeth arhosol i ben pan fydd y rhoddwr yn marw. Rhaid i chi roi gwybod am farwolaeth rhoddwr i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Rhoi’r gorau i weithredu cyn i’r rhoddwr farw

Gallwch ddewis rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai – gelwir hyn weithiau yn ‘ildio’ atwrneiaeth.

Hefyd, ceir rhai achosion lle mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi’r gorau i weithredu fel atwrnai.

Os byddwch yn rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai, bydd unrhyw atwrneiod wrth gefn a restrir yn yr LPA yn cymryd eich lle.

Os nad oes rhai wrth gefn ar gael, gall fod ffyrdd eraill o helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau.

Os ydych chi’n dewis rhoi’r gorau i weithredu

Llenwch ac anfonwch ffurflen hysbysu at:

  • y rhoddwr - os nad yw’r LPA wedi’i chofrestru
  • y rhoddwr a’r OPG (yn y cyfeiriad ar y ffurflen) - os yw’r LPA wedi’i chofrestru
  • unrhyw atwrneiod eraill a benodir ar yr LPA

Pan fydd yn rhaid i chi roi’r gorau i weithredu

Rhaid i chi roi’r gorau i weithredu fel atwrnai:

  • os bydd y rhoddwr yn tynnu eich enw oddi ar eu LPA - a elwir weithiau yn ‘dirymu’ atwrnai
  • os byddwch yn colli galluedd meddyliol ac yn methu â gwneud penderfyniadau mwyach
  • rydych yn atwrnai ar gyfer eiddo a materion ariannol a’ch bod yn mynd yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhad dyledion
  • rydych yn briod â’r rhoddwr neu mewn partneriaeth sifil ag ef/â hi a’ch bod yn cael ysgariad neu ddirymiad (oni bai bod yr LPA yn dweud y gallwch barhau i weithredu fel atwrnai)
  • rydych yn atwrnai ar y cyd ac mae’r atwrnai arall yn rhoi’r gorau i weithredu, oni bai bod yr LPA yn dweud y gallwch barhau i wneud penderfyniadau