Gwiriadau ac ymweliadau

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Llys Gwarchod wirio eich penderfyniadau. Gallant:

  • drefnu ymweliad gyda chi a’r rhoddwr, neu gyda’r rhoddwr yn unig
  • cysylltu â phobl eraill fel teulu, banc neu weithwyr gofal y rhoddwr

Gallant ymchwilio a’ch atal rhag gweithredu fel atwrnai os, er enghraifft:

  • eich bod wedi gwneud rhywbeth mae’r atwrneiaeth arhosol (LPA) yn dweud na allwch ei wneud
  • nid ydych wedi gwneud rhywbeth y mae’r LPA wedi eich cyfarwyddo i’w wneud
  • nid ydych wedi bod yn gweithredu er lles pennaf y rhoddwr
  • rydych yn camddefnyddio arian y rhoddwr neu’n gwneud penderfyniadau er lles eich hun
  • rydych yn gwneud rhywbeth sy’n mynd yn groes i hawliau dynol neu hawliau sifil y rhoddwr
  • nid yw’r rhoddwr yn cael ei drin yn dda
  • gwnaeth y rhoddwr yr LPA dan bwysau neu fe’i twyllwyd i wneud hynny