Cofnodion a threuliau

Cadwch gofnod o:

  • benderfyniadau pwysig a wnewch a phryd y byddwch yn eu gwneud nhw, er enghraifft, gwerthu cartref y rhoddwr neu gytuno i driniaeth feddygol
  • asedau’r rhoddwr, incwm a sut rydych yn gwario eu harian - os mai chi yw ei atwrnai ar gyfer eiddo a materion ariannol

Dylech gynnwys manylion am bwy y gwnaethoch ofyn am gyngor ganddo ac unrhyw anghytundebau a gafwyd.

Peidiwch â chynnwys penderfyniadau bach, cyffredin.

Treuliau

Dim ond treuliau am bethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni eich rôl fel atwrnai y gallwch eu hawlio, er enghraifft:

  • talu gweithiwr proffesiynol i wneud pethau fel llenwi ffurflen dreth y rhoddwr
  • costau teithio
  • deunydd ysgrifennu
  • stampiau
  • galwadau ffôn

Gellir eich gorchymyn i ad-dalu arian y rhoddwr os byddwch yn ei gamddefnyddio neu’n gwneud penderfyniadau er lles eich hun.

Cadwch eich derbynebau ac anfonebwch y rhoddwr am eich treuliau. Bydd yr arian yn cael ei dalu gan bwy bynnag sy’n gyfrifol am arian y rhoddwr.