Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais i herio penderfyniad y llys ynadon:

  • os ydych eisiau gofyn i’r llys leihau swm dirwy
  • rhoddodd rhywun eich manylion yn ffug i’r heddlu neu’r llysoedd
  • nid oeddech yn gwybod am yr achos yn eich erbyn
  • ni wnaethoch fynychu’r gwrandawiad, neu nid oedd gan y llys yr holl dystiolaeth

Gallwch wneud cais:

  • dros y ffôn
  • ar-lein

Fe ofynnir cwestiynau i chi ac fe ddywedir wrthych pa fath o gais y gallwch ei wneud. Gallwch wneud cais am ddim.

Cyn i chi ddechrau

Byddwch angen:

  • eich rhif achos unigryw - gallwch ddod o hyd iddo ar eich llythyr hysbysiad, neu unrhyw lythyr gan y llys neu’r erlynydd
  • rhif eich trwydded yrru, os yw eich achos yn ymwneud â throsedd gyrru
  • tystiolaeth o’ch incwm (megis slipiau cyflog neu lythyr prawf o fudd-dal) os ydych yn gwneud cais i leihau cyfanswm swm eich dirwy
  • unrhyw ddogfennau ychwanegol rydych eisiau uwchlwytho i gefnogi eich achos

Os nad yw eich rhif achos unigryw gennych, ffoniwch Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd.

Gwneud cais dros y ffôn

Cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd.

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 303 5172
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm a dydd Gwener, 9am - 4.30pm Gwybodaeth am gost galwadau

Gwneud cais ar-lein

Bydd yn cymryd tua 30 munud i wneud cais. Gallwch gadw eich cais a dod yn ôl ato yn hwyrach ymlaen.

Dechrau nawr

Gallwch siarad â’ch cynrychiolydd cyfreithiol (os oes gennych un) neu gael help gan gynghorydd cyfreithiol cyn i chi herio penderfyniad llys ynadon.

Os oes arnoch angen cymorth i wneud cais

Os ydych angen cymorth, mae pwy y dylech gysylltu ag o yn dibynnu ar beth sydd ei angen arnoch.

Os ydych chi’n cael problemau technegol neu os ydych chi angen cyfarwyddyd ar sut i apelio:

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 303 5172
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm a dydd Gwener, 9am - 4.30pm Gwybodaeth am gost galwadau

Os nad oes gennych chi fynediad i’r rhyngrwyd, neu nid ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we:

We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 ac mi fydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau