Gofyn i ddirwy gael ei hadolygu

Efallai y gellir adolygu eich dirwy os ydych eisiau lleihau:

  • swm eich taliad rheolaidd
  • cyfanswm y swm sy’n ddyledus gennych

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch incwm megis slipiau cyflog neu brawf o lythyr budd-dal.

Os yw eich incwm wedi newid ers i chi gael eich dedfrydu, bydd angen i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o’ch incwm ar ddyddiad eich dedfrydu.

Lleihau swm eich taliad rheolaidd

Gallwch ofyn i leihau swm eich taliad rheolaidd os na allwch ei fforddio. Efallai y cewch fwy o amser i dalu’r ddirwy.

Cysylltwch â’r llys neu’r ganolfan orfodi a nodir ar eich hysbysiad i leihau swm eich taliad rheolaidd.

Lleihau cyfanswm y swm sy’n ddyledus gennych

Gallwch ond wneud cais i leihau cyfanswm y swm sy’n ddyledus gennych os ydych yn ennill llai na £440 yr wythnos a naill ai:

  • nid oedd y llys yn gwybod hyn pan roddodd y ddirwy i chi
  • mae eich amgylchiadau ariannol wedi newid ers i chi gael y ddirwy

Os bydd y llys yn cytuno i leihau eich dirwy, gallwch gytuno ar swm y taliad rheolaidd newydd yr un amser.

Mae’n rhaid i chi wneud cais ar-lein i leihau cyfanswm y swm sy’n ddyledus gennych.

Efallai y bydd angen i chi fynychu gwrandawiad llys arall. Bydd y llys yn eich hysbysu os y cynhelir gwrandawiad.