Apelio yn erbyn penderfyniad y llys ynadon
Os yw rhywun wedi rhoi eich manylion ar gam i’r heddlu neu’r llysoedd
Efallai y gallwch ofyn i’r llys ail-agor eich achos os rhoddodd rhywun eich enw i’r heddlu ynghylch trosedd na wnaethoch ei chyflawni.
Sut i ofyn i’r llys ail-agor eich achos
-
Ffoniwch eich heddlu lleol ar 101 i riportio na wnaethoch gyflawni’r drosedd.
-
Gwnewch gais ar-lein i ofyn i’r llys ail-agor eich achos. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i brofi nad chi oedd yr unigolyn a gyflawnodd y drosedd.
-
Bydd y llys yn penderfynu p’un a fydd yn ail-agor yr achos neu’n cysylltu â chi os bydd angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach.