Os nad oeddech yn gwybod am eich achos

Os nad oeddech yn gwybod am eich achos, gallwch ofyn i’r llys ei ail-agor.

Mae’n rhaid i chi wneud pob un o’r canlynol:

  • gwneud cais i’r llys
  • gwneud datganiad cyfreithiol a elwir yn ‘datganiad statudol’
  • mynychu gwrandawiad llys

Gwneud cais i’r llys

Mae’n rhaid i chi wneud cais ar-lein.

Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am ble a phryd y cynhaliwyd eich gwrandawiad a sut y daethoch i wybod am eich achos llys.

Gwneud datganiad cyfreithiol

Bydd angen i chi wneud datganiad cyfreithiol yn dweud na chawsoch hysbysiad yn dweud wrthych am y cyhuddiadau.

Gallwch naill ai wneud y datganiad cyfreithiol:

  • cyn y gwrandawiad llys gyda chynrychiolydd cyfreithiol megis cyfreithiwr - bydd rhaid i chi dalu i wneud hyn
  • yn y gwrandawiad llys - mae hyn am ddim

Os oeddech yn gwybod am yr achos ond nad oeddech yn gwybod bod yna wrandawiad, efallai na fydd angen i chi wneud datganiad cyfreithiol. Gallwch ofyn i’r llys ail-agor eich achos oherwydd nad oedd gan y llys yr holl wybodaeth.

Ar ôl i chi wneud cais

Os bydd y llys yn derbyn eich datganiad cyfreithiol, bydd yn ail-agor eich achos.

Gallwch dal fod yn euog o’r drosedd, hyd yn oed os nad oeddech yn gwybod am eich achos.

Os bydd eich achos yn cael ei ail-agor a’ch bod yn eich cael yn euog, efallai y bydd y canlyniad yn wahanol. Er enghraifft, efallai y cewch ddirwy uwch neu fwy o bwyntiau ar eich trwydded yrru.