Apelio yn erbyn penderfyniad y llys ynadon
Trosolwg
Os ydych yn anhapus â phenderfyniad a wnaed gan lys ynadon, gallwch ei herio neu ofyn iddo gael ei adolygu (apelio).
Mae yna wahanol reolau ar gyfer herio penderfyniad llys yng Ngogledd Iwerddon a herio penderfyniad llys yn yr Alban.
Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch siarad â’ch cynrychiolydd cyfreithiol (os oes gennych un) neu gael help gan gynghorydd cyfreithiol cyn i chi herio penderfyniad llys ynadon.
Gofyn i’ch dirwy gael ei hadolygu
Gallwch ofyn i’ch dirwy gael ei hadolygu os ydych yn cael anhawster talu’r dirwy a gawsoch.
Gofyn i’r llys ail-agor eich achos
Gallwch ofyn i’r llys ail-agor yr achos:
- os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi rhoi eich manylion ar gam i’r heddlu neu’r llysoedd mewn perthynas â throsedd
- os nad oeddech yn gwybod am eich achos
- os nad oedd gan y llys yr holl wybodaeth am eich achos