Cael ad-daliad

Gallwch ofyn am ad-daliad os:

  • ydych chi wedi talu mwy na’r cyfanswm sy’n ddyledus gennych
  • oedd eich incwm blynyddol o dan y trothwy
  • dechreuoch wneud ad-daliadau cyn bod angen
  • ydych wedi ad-dalu mwy nag sydd angen oherwydd bod eich cyflogwr wedi eich rhoi ar y cynllun ad-dalu anghywir

Ni allwch gael ad-daliad am daliadau ychwanegol.

Os byddwch yn ad-dalu mwy nag sy’n ddyledus gennych

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn dweud wrth eich cyflogwr i roi’r gorau i gymryd ad-daliadau o’ch cyflog pan fyddwch wedi ad-dalu’ch benthyciad yn llawn. Gall gymryd tua 4 wythnos i ddidyniadau cyflog ddod i ben.

Mae hyn yn golygu y gallwch dalu mwy yn ôl nag sydd arnoch chi.

Gallwch osgoi talu mwy nag sy’n ddyledus drwy newid eich taliadau i Ddebyd Uniongyrchol ym mlwyddyn olaf eich ad-daliadau. Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol yn eich cyfrif ar-lein fel y gall SLC roi gwybod i chi sut i sefydlu hyn.

Os ydych wedi talu gormod bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn ceisio:

  • cysylltu â chi i ddweud wrthych sut i gael ad-daliad
  • eich ad-dalu’n awtomatig (bydd hyn yn ymddangos yn eich cyfrif banc fel ‘SLC Receipts’)

Gallwch wirio balans eich benthyciad yn eich cyfrif ar-lein.

Os ydych wedi gordalu a heb glywed gan SLC gallwch ofyn iddynt am ad-daliad.

Os oedd eich incwm blynyddol yn is na’r trothwy

Eich incwm yw’r swm rydych yn ei ennill (gan gynnwys pethau fel bonysau a goramser) cyn treth a didyniadau eraill.

Gallwch ofyn am ad-daliad os gwnaethoch ad-daliadau ond bod eich incwm dros y flwyddyn dreth gyfan (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol) yn llai na:

  • £24,990 y flwyddyn ar gyfer Cynllun 1
  • £27,295 y flwyddyn ar gyfer Cynllun 2
  • £31,395 y flwyddyn ar gyfer Cynllun 4
  • £21,000 y flwyddyn ar gyfer Benthyciad Ôl-raddedig

Os yw eich cyflog blynyddol yn llai na hyn, mae’n bosibl y bydd eich cyflogwr yn dal wedi didynnu ad-daliadau. Er enghraifft, pe bai bonws yn cael ei dalu i chi sy’n eich rhoi dros y trothwy misol ar gyfer eich cynllun, byddent yn didynnu ad-daliad ar gyfer y mis hwnnw.

Ni fyddwch yn cael ad-daliad am unrhyw daliadau a wnaethoch tan ar ôl i SLC gadarnhau eich incwm blynyddol gyda CThEF. Ni fydd hyn yn digwydd tan ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Dim ond ar gyfer blynyddoedd treth sydd wedi dod i ben y gallwch ofyn am ad-daliad.

Os ydych yn ad-dalu cyfuniad o fenthyciadau Cynllun 1, Cynllun 2 a Chynllun 4, gallwch gael ad-daliad dim ond os oedd eich incwm llai na’r trothwy.

Enghraifft

 Rydych yn ad-dalu benthyciadau Cynllun 1 a Chynllun 2.

 Trothwy Cynllun 1 yw £24,990 y flwyddyn.

 Trothwy Cynllun 2 yw £27,295 y flwyddyn.

Mae trothwy Cynllun 1 yn is.

Mae hyn yn golygu mai dim ond os oedd eich incwm yn llai na throthwy Cynllun 1 (£24,990 y flwyddyn) y gallwch gael ad-daliad.

Gwiriwch pa gynllun ad-dalu ydych chi arno os nad ydych yn siŵr.

Gallwch wirio trothwyon blaenorol os gofynnwch am ad-daliad ar daliadau a wnaed cyn y flwyddyn dreth hon.

Os gwnaethoch ddechrau ad-dalu cyn bod angen

Os cymerir didyniad o’ch cyflog cyn bod rhaid i ddechrau ad-dalu, gallwch ofyn am ad-daliad.

Os oedd eich cyflogwr wedi’ch rhoi ar y cynllun ad-dalu anghywir

Gallwch gael ad-daliad os ydych ar Gynllun 2 neu Gynllun 4 ond mae eich cyflogwr wedi’ch rhoi ar gynllun arall. Sicrhewch bod eich cyflogwr wedi eich cynnwys ar y cynllun ad-dalu cywir.

Sut i ofyn am ad-daliad

Os oedd eich incwm blynyddol yn is na’r trothwy ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol

Llenwch ffurflen gais am ad-daliad a’i hanfon at SLC.

Os byddwch angen ad-daliad am unrhyw reswm arall

Ffoniwch neu cysylltwch â SLC gyda’ch cyfeirnod cwsmer.

Cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Ffôn: 0300 100 0611 (Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban)
Ffôn: +44 (0)141 243 3660 (tu allan i’r DU)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm

Ffôn: 0300 100 0370 (Cymru)
Dydd Llun i ddydd Gwener – 8am i 6pm (ddim ar agor ar wyliau banc)

Dysgwch am daliadau ar gyfer galwadau

Gallwch gysylltu â SLC drwy’r post.

Finance Department
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf
10 Clyde Place
Glasgow
G5 8DF