Pan fydd eich benthyciad myfyriwr yn cael ei ddileu neu ei ganslo

Mae pryd y caiff eich benthyciad myfyriwr ei ddileu yn dibynnu ar pa gynllun ad-dalu rydych chi arno.

Os ydych yn fyfyriwr amser llawn o Gymru, efallai y byddwch yn gallu cael £1,500 o’ch Benthyciad Cynhaliaeth wedi’i ddileu.

Pan fydd benthyciadau Cynllun 1 yn cael eu dileu

Mae pryd y caiff eich benthyciad Cynllun 1 ei ddileu yn dibynnu ar ba bryd y talwyd y benthyciad cyntaf ar gyfer eich cwrs.

Os talwyd y benthyciad cyntaf i chi ar neu ar ôl 1 Medi 2006

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu dileu 25 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf.

Os talwyd y benthyciad cyntaf i chi cyn 1 Medi 2006

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu dileu pan fyddwch yn 65.

Pan fydd benthyciadau Cynllun 2 yn cael eu dileu

Mae benthyciadau Cynllun 2 yn cael eu dileu 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf.

Pan fydd benthyciadau Cynllun 4 yn cael eu dileu

Mae pryd y caiff eich benthyciad Cynllun 4 ei ddileu yn dibynnu ar ba bryd y talwyd y benthyciad cyntaf ar gyfer eich cwrs.

Os talwyd y benthyciad cyntaf i chi ar neu ar ôl Dydd Mercher, 1 Awst 2007

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu dileu 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf.

Os talwyd y benthyciad cyntaf i chi cyn Dydd Mercher, 1 Awst 2007

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu dileu pan fyddwch yn 65 oed, neu 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf – pa un bynnag ddaw gyntaf.

Pan fydd benthyciadau Cynllun 5 yn cael eu dileu

Mae benthyciadau Cynllun 5 yn cael eu dileu 40 mlynedd ar ôl yr Ebrill roeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf.

Pan fydd Benthyciadau Ôl-raddedig yn cael eu dileu

Os ydych yn fyfyriwr o Gymru neu Loegr, bydd eich Benthyciad Ôl-raddedig yn cael ei ddileu 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf.

Os ydych chi’n fyfyriwr ôl-raddedig o Ogledd Iwerddon, rydych chi ar Gynllun 1.

Os ydych chi’n fyfyriwr ôl-raddedig o’r Alban, rydych chi ar Gynllun 4.

Os bydd rhywun sydd â benthyciad myfyriwr yn marw

Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn canslo benthyciad myfyriwr y person.

Mae angen i chi roi gwybod i SLC bod yr unigolyn wedi marw a darparu tystiolaeth (er enghraifft tystysgrif marwolaeth wreiddiol), yn ogystal â Cyfeirnod Cwsmer yr unigolyn.

Os na allwch weithio mwyach oherwydd salwch neu anabledd

Mae’n bosibl y bydd SLC yn gallu canslo’ch benthyciad os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau anabledd. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth (er enghraifft llythyr gan yr asiantaeth budd-daliadau) a’ch Cyfeirnod Cwsmer.