Faint fyddwch chi’n ad-dalu

Mae faint fyddwch chi’n ad-dalu yn dibynnu ar eich incwm - y swm rydych yn ei ennill (gan gynnwys pethau fel bonysau a goramser) cyn treth a didyniadau eraill.

Byddwch yn ad-dalu canran o’ch incwm dros y ‘trothwy’ ar gyfer eich math o fenthyciad, yn dibynnu ar ba mor aml y cewch eich talu.

Mae’r trothwyon yn wahanol ar gyfer pob math o gynllun.

Math o gynllun Trothwy blynyddol Trothwy misol Trothwy wythnosol
Cynllun 1 £24,990 £2,082 £480
Cynllun 2 £27,295 £2,274 £524
Cynllun 4 £31,395 £2,616 £603
Cynllun 5 £25,000 £2,083 £480
Benthyciad Ôl-raddedig £21,000 £1,750 £403

Byddwch yn ad-dalu naill ai:

  • 9% o’ch incwm dros y trothwy os ydych ar Gynllun 1, 2, 4 neu 5

  • 6% o’ch incwm dros y trothwy os ydych ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig

Mae’r enghreifftiau’n dangos faint y byddech chi’n ei ad-dalu yn dibynnu ar eich incwm a’ch math o gynllun:

Enghraifft

Rydych ar Gynllun 1 ac mae gennych incwm o £33,000 y flwyddyn, sy’n golygu eich bod yn cael eich talu £2,750 bob mis.

Cyfrifiad:

£2,750 – £2,082 (eich incwm llai trothwy Cynllun 1) = £668

9% o £668 = £60.12

Mae hyn yn golygu mai’r swm y byddech yn ei ad-dalu bob mis fyddai £60.

Enghraifft

Rydych ar Gynllun 4 ac mae gennych incwm o £36,000 y flwyddyn, sy’n golygu eich bod yn cael eich talu £3,000 bob mis.

Cyfrifiad:

£3,000 – £2,616 (eich incwm llai trothwy Cynllun 4) = £384

9% o £384 = £34.56

Mae hyn yn golygu mai’r swm y byddech yn ei ad-dalu bob mis fyddai £34.

Os bydd eich incwm yn newid yn ystod y flwyddyn

Byddwch yn gwneud ad-daliad os bydd eich incwm yn mynd dros y trothwy wythnosol neu fisol ar gyfer eich cynllun (er enghraifft, os telir bonws neu oramser i chi). Gallwch ofyn am ad-daliad ar ddiwedd y flwyddyn dreth os yw eich incwm blynyddol yn llai na’r trothwy blynyddol ar gyfer eich cynllun.

Llog

Mae faint o log a godir arnoch yn dibynnu ar ba fath o gynllun yr ydych arno. Faint y codir arnoch ar hyn o bryd:

  • 6.25% os ydych chi ar Gynllun 1
  • 7.8% os ydych chi ar Gynllun 2
  • 6.25% os ydych chi ar Gynllun 4
  • 7.8% os ydych chi ar Gynllun 5
  • 7.8% os ydych chi ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch:

Os ydych ar fwy nag un math o gynllun

Mae faint y byddwch yn ei ad-dalu yn dibynnu ar ba un o’ch mathau o gynllun sydd â’r trothwy ad-dalu isaf ac a oes gennych Fenthyciad Ôl-raddedig ai peidio.

Os nad oes gennych Fenthyciad Ôl-raddedig

Byddwch yn ad-dalu 9% o’ch incwm dros y trothwy isaf allan o’r mathau o gynlluniau sydd gennych. Dim ond un ad-daliad a gymerir bob tro y cewch eich talu, hyd yn oed os ydych ar fwy nag un math o gynllun.

Enghraifft

Rydych ar Gynllun 1 a Chynllun 2 ac mae gennych incwm o £26,400 y flwyddyn, sy’n golygu eich bod yn cael eich talu £2,200 bob mis. Mae hyn dros drothwy Cynllun 1 o £2,082 ond o dan drothwy Cynllun 2 o £2,274.

Byddwch yn ad-dalu 9% o’ch incwm dros £2,082 y mis oherwydd dyna’r trothwy isaf allan o’r mathau o gynlluniau sydd gennych.

Cyfrifiad:

£2,200 – £2,082 (eich incwm llai’r trothwy isaf) = £118

9% o £118 = £10.62

Mae hyn yn golygu mai’r swm y byddech yn ei ad-dalu bob mis fyddai £10.

Pe bai eich incwm yn mynd dros drothwy Cynllun 2, dim ond 9% o’ch incwm dros drothwy Cynllun 1 y byddech yn ei ad-dalu o hyd. Ni fyddai’n rhaid i chi wneud ad-daliad ar wahân tuag at eich benthyciad Cynllun 2.

Os oes gennych Fenthyciad Ôl-raddedig

Byddwch yn ad-dalu 6% o’ch incwm dros y trothwy Benthyciad Ôl-raddedig (£21,000 y flwyddyn) a 9% o’ch incwm dros y trothwy isaf ar gyfer unrhyw fathau eraill o gynllun sydd gennych.

Enghraifft

Mae gennych Fenthyciad Ôl-raddedig a benthyciad Cynllun 2 ac mae gennych incwm o £28,800 y flwyddyn, sy’n golygu eich bod yn cael eich talu £2,400 bob mis. Mae hyn dros y trothwy Benthyciad Ôl-raddedig o £1,750 a throthwy Cynllun 2 o £2,274.

Cyfrifiad:

£2,400 – £1,750 (eich incwm llai’r trothwy Benthyciad Ôl-raddedig) = £650
6% o £650 = £39

£2,400 – £2,274 (eich incwm llai trothwy Cynllun 2) = £126
9% o £126 = £11

Mae hyn yn golygu mai’r swm y byddech yn ei ad-dalu bob mis fyddai £50.

Os oes gennych fwy nag un swydd

Byddwch ond yn gwneud ad-daliadau o swyddi lle cewch eich talu dros y trothwy ar gyfer eich math o gynllun, nid eich incwm cyfunol.

Enghraifft

Mae gennych fenthyciad Cynllun 1 ac mae gennych 2 swydd. Cyn treth a didyniadau eraill, cewch £1,000 y mis o un swydd ac £800 y mis am y llall.

Ni fydd yn rhaid i chi wneud ad-daliadau oherwydd nad yw’r naill na’r llall yn uwch na’r trothwy o £2,082 y mis.

Enghraifft

Mae gennych fenthyciad Cynllun 2 ac mae gennych 2 swydd. Cyn treth a didyniadau eraill, cewch £2,300 y mis o un swydd ac £500 y mis am y llall.

Byddwch ond yn gwneud ad-daliadau ar yr incwm o’r swydd sy’n talu £2,300 y mis i chi oherwydd ei fod yn uwch na’r trothwy o £2,274.

Os ydych yn hunangyflogedig

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo faint y byddwch yn ei ad-dalu bob blwyddyn o’ch Ffurflen Dreth. Bydd eich ad-daliadau yn seiliedig ar eich incwm am y flwyddyn gyfan.

Os ydych eisoes wedi gwneud ad-daliadau o gyflog, bydd CThEF yn eu didynnu o’r swm y mae’n rhaid i chi ei ad-dalu.