Ateb cais am ysgariad
Os ydych yn anghytuno â’r ysgariad
Dim ond os oes gennych reswm cyfreithiol y gallwch anghytuno â’r ysgariad. Er enghraifft, os ydych yn byw dramor ac nid oes gan y llys yng Nghymru neu Loegr bŵer dros eich achos.
Ni allwch anghytuno oherwydd nad ydych eisiau ysgariad.
Ar ôl i chi ateb yn dweud eich bod yn anghytuno, mae’n rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen ‘ymateb i gais am ysgariad’ i egluro pam eich bod chi’n anghytuno.
Anfonwch y ffurflen yn ôl i’r cyfeiriad ar y ffurflen o fewn 21 diwrnod i chi gael eich rhybudd o achos.
Bydd rhaid i chi dalu £234 ac efallai y bydd rhaid i chi fynd i’r llys.
Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd llys.
Cael cyngor
Gallwch gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud.