Ateb cais am ysgariad
Os ydych yn cytuno â’r ysgariad
Os gwnaethoch ateb a dweud eich bod yn cytuno â’r ysgariad, bydd yr ysgariad yn parhau.
Byddwch yn cytuno gyda’ch gŵr neu eich gwraig sut i rannu arian ac eiddo a’r trefniadau ar gyfer unrhyw blant sydd gennych. Os y gallwch gytuno, ni fydd angen i chi fynychu gwrandawiad llys.
Bydd eich gŵr neu eich gwraig yn gwneud cais am:
- orchymyn amodol - ar ôl i 20 wythnos fynd heibio ers gwneud y cais am ysgariad
- gorchymyn terfynol - 43 wythnos ar ôl y gorchymyn amodol
Pan wneir y gorchymyn terfynol, bydd eich priodas ar ben. Rydych nawr wedi ysgaru a gallwch ailbriodi os dymunwch.
Cael cyngor
Gallwch gael cyngor cyfreithiol i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud.