Ateb cais am ysgariad
Trosolwg
Os yw eich gŵr neu eich gwraig wedi gwneud cais am ysgariad, bydd y llys yn anfon copi o’u cais atoch.
Fe gewch hefyd y dogfennau canlynol ar-lein neu drwy’r post:
- ‘rhybudd o achos’ - mae hwn yn dweud wrthych beth yw eich rhif achos a beth i’w wneud nesaf
- ffurflen ‘cydnabod cyflwyno’ - gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i ateb
Mae’r broses yn wahanol os ydych eisiau gwneud cais am ysgariad eich hun neu os ydych yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cadwch y rhybudd o achos yn ddiogel.
Mae’n rhaid i chi ateb erbyn y dyddiad sydd ar y rhybudd o achos. Gallwch ateb ar-lein neu drwy’r post.
Pan fyddwch yn ateb, byddwch yn dweud p’un ai a ydych yn:
- cytuno â’r ysgariad
- anghytuno â’r ysgariad
Os ydych yn ateb gan ddweud eich bod yn cytuno â’r ysgariad, bydd yr ysgariad yn parhau. Byddwch chi a’ch gŵr neu eich gwraig yn gwneud trefniadau ar gyfer unrhyw blant sydd gennych ac ar gyfer rhannu arian ac eiddo.
Os ydych yn anghytuno â’r ysgariad, bydd angen i chi lenwi ffurflen ychwanegol ar ôl i chi ateb. Gallwch ond anghytuno am resymau cyfreithiol.
Os na fyddwch yn ateb yna gall yr ysgariad barhau beth bynnag.
Cael cymorth
Gallwch wneud y canlynol:
- cael cefnogaeth emosiynol ac ymarferol gan Relate
- dod o hyd i gwnselydd ar Counselling Directory