Gwneud Cais i’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl
Gwneud cais i’r tribiwnlys
Lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Iechyd Meddwl). Rhaid i chi gynnwys:
- yr hyn rydych yn gwneud cais amdano, er enghraifft, cael eich rhyddhau os ydych wedi eich cadw ar gyfer asesiad neu driniaeth
- enw cyntaf, cyfenw a dyddiad geni’r claf
- manylion llawn y cydlynydd gofal a’r ysbyty
- y dyddiad y cawsoch chi neu’r claf eu cadw neu ddyddiad y gorchymyn
- manylion cyswllt eich ‘perthynas agosaf’ (os oes gennych chi un)
- manylion eich cynrychiolydd cyfreithiol (os oes gennych un)
- p’un a ydych angen cyfieithydd
Gallwch hefyd gynnwys ar eich ffurflen gais a fyddai’n well gennych i’ch gwrandawiad gael ei gynnal wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo. Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn ceisio gwneud yr hyn sydd orau gennych ond ni fydd hyn bob amser yn bosibl.
Anfon y ffurflen
Gallwch anfon eich ffurflen drwy e-bost neu drwy’r post.
Anfon drwy e-bost
Mae i ble y dylech anfon y ffurflen yn dibynnu ar sut y cawsoch eich cadw.
Nodwch beth rydych yn gwneud cais amdano yn llinell bwnc eich e-bost.
Os ydych wedi eich cadw ar gyfer asesiad (‘adran 2’):
mhtsection2applications@justice.gov.uk
Ar gyfer pob cais arall - er enghraifft, os ydych wedi cael eich cadw ar gyfer triniaeth:
mhtapplications@justice.gov.uk
Anfon drwy’r post
Gallwch hefyd bostio’r ffurflen i GLlTEF.
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Tribiwnlys Haen-gyntaf (Iechyd Meddwl)
Blwch Post 11231
5ed Llawr
Caerlŷr
LE1 8FR
Os oes gennych gwestiynau am lenwi’r ffurflen
Cysylltwch â’r tribiwnlys dros y ffôn neu drwy e-bost os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch llenwi’r ffurflen. Ni all y llinell gymorth na’r cyfeiriad e-bost roi cyngor cyfreithiol i chi.
Tribiwnlys Iechyd Meddwl
mhtenquiries@justice.gov.uk
Rhif ffôn (Lloegr): 0300 123 2201
Gwybodaeth am gost galwadau