Gwneud Cais i’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl
Penderfyniad y tribiwnlys
Mae’r tribiwnlys fel arfer yn gwneud penderfyniad ar ddiwedd y gwrandawiad. Byddwch yn cael y penderfyniad ar y diwrnod, a byddwch fel arfer yn cael y rhesymau ysgrifenedig llawn o fewn 7 diwrnod i’r gwrandawiad.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall y tribiwnlys:
- orchymyn eich rhyddhau (ar yr un diwrnod neu ar ddyddiad yn y dyfodol)
- argymell eich bod yn cael eich trosglwyddo i ysbyty gwahanol
- argymell eich bod yn cael eich ystyried ar gyfer triniaeth o dan orchymyn triniaeth cymunedol
- argymell eich bod yn cael gadael yr ysbyty am gyfnodau o amser, i weld a ydych yn barod ar gyfer bywyd yn y gymuned
- argymell eich bod yn dychwelyd i’r carchar, os ydych yn garcharor sydd wedi’i drosglwyddo i ysbyty
Ni all y tribiwnlys newid eich triniaeth, er enghraifft meddyginiaeth.
Apelio
Os byddwch yn colli eich achos, gallwch ofyn i’r tribiwnlys:
- ganslo’r penderfyniad - rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i chi gael y penderfyniad ysgrifenedig.
- am ganiatâd i apelio i dribiwnlys uwch (yr ‘Uwch Dribiwnlys’)
Gofyn i’r tribiwnlys ganslo’r penderfyniad
Byddwch yn cael gwybod sut i gael penderfyniad ‘wedi’i roi o’r naill du’ (wedi’i ganslo) os ydych yn meddwl bod yna gamgymeriad wedi bod yn y broses, er enghraifft ni chawsoch wybod am y gwrandawiad ac felly ni wnaethoch fynychu.
Os bydd y tribiwnlys yn canslo’r penderfyniad, efallai y gallwch gael gwrandawiad newydd.
Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os ydych angen cymorth.
Apelio i’r Uwch Dribiwnlys
Gallwch ofyn am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys os ydych yn meddwl bod yna gamgymeriad cyfreithiol wedi bod, er enghraifft os:
- na wnaethant gymhwyso’r gyfraith gywir neu wedi dehongli’r gyfraith yn anghywir
- na wnaethant ddilyn y gweithdrefnau cywir
- nad oedd ganddynt dystiolaeth neu ddigon o dystiolaeth i gefnogi eu penderfyniad.
Llenwch y ffurflen gais am ganiatâd i apelio - mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Bydd barnwr arall yn edrych i weld a oes yna broblem gyfreithiol gyda’ch achos ac os yw angen gwrandawiad arall.
Cwyno
Ni allwch gwyno am y penderfyniad - gallwch ond gwyno am staff y tribiwnlys a’r ffordd y cafodd y gwrandawiad ei gynnal.