Gwneud Cais i’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Fel arfer, cynhelir gwrandawiadau yn breifat. Gall y gwrandawiad gael ei gynnal wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo. Bydd y tribiwnlys yn cysylltu â chi ac yn dweud wrthych sut fydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal.
Os bydd eich gwrandawiad yn cael ei gynnal drwy alwad fideo, bydd yn cael ei recordio. Gallwch wneud cais am drawsgrifiad o’r recordiad.
Nid oes yn rhaid i chi fynychu’r gwrandawiad os nad ydych yn dymuno. Os byddwch yn mynychu, gallwch adael ar unrhyw adeg.
Pwy fydd yn mynychu’r gwrandawiad
Bydd y canlynol yn mynychu gwrandawiad:
- panel barnwrol, sy’n cynnwys barnwr, seiciatrydd ymgynghorol ac arbenigwr iechyd meddwl
- chi, os ydych chi eisiau mynychu
- eich clinigydd cyfrifol a gweithiwr cymdeithasol
- eich nyrs ward, os ydych yn cael eich cadw mewn ysbyty
- eich cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych un
- eich eiriolydd iechyd meddwl annibynnol, os oes gennych un
- eich ‘perthynas agosaf’, os gwnaethant gais i’r tribiwnlys ar eich rhan
Os ydych chi eisiau dod ag unrhyw berthynas gyda chi, yna mae’n rhaid i chi ofyn i’r tribiwnlys cyn y gwrandawiad. Bydd y tribiwnlys yn penderfynu a fyddant yn cael dod.
Gallwch chi, eich perthynas neu eich cynrychiolydd cyfreithiol drefnu i dystion neu arbenigwyr fynychu.
Mynychwyr o tu allan i’r DU
Os yw eich cynrychiolydd, tyst neu berthynas y tu allan i’r DU ac yn dymuno rhoi tystiolaeth fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad maent a pha fath o dystiolaeth a roddir. Rhaid i chi wneud hyn cyn gynted ag y bo modd.
Ble cynhelir gwrandawiadau wyneb yn wyneb
Fel arfer, bydd gwrandawiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal naill ai yn:
- yr ysbyty ble rydych wedi eich cadw
- y lleoliad ble mae eich clinigydd cyfrifol neu eich tîm cymunedol wedi’i leoli (os ydych yn byw yn y gymuned)
Tystiolaeth a roddir yn y gwrandawiad
Bydd eich clinigydd cyfrifol a’ch gweithiwr cymdeithasol yn rhoi tystiolaeth. Os byddwch wedi eich cadw mewn ysbyty, bydd nyrs hefyd yn rhoi tystiolaeth.
Gallwch roi tystiolaeth os dymunwch. Gallwch ddewis naill ai siarad yn gyntaf neu’n olaf, a gallwch adael y gwrandawiad ar ôl i chi roi tystiolaeth.
Gellir gofyn cwestiynau i unrhyw un sy’n rhoi tystiolaeth.
Bydd y tribiwnlys hefyd yn edrych ar:
- eich archwiliad cyn y gwrandawiad gan feddyg y tribiwnlys, os cawsoch un
- adroddiad seiciatrig annibynnol, os wnaethoch chi, eich perthynas neu eich cynrychiolydd cyfreithiol ofyn am un
Os ydych chi wedi cael gorchymyn neu gyfarwyddyd cyfyngu
Os ydych chi wedi cyflawni trosedd ddifrifol yn erbyn unigolyn, gallan nhw neu eu teulu wneud ‘sylwadau’ neu ofyn am amodau penodol os yw’r tribiwnlys yn meddwl eich bod yn barod i’ch rhyddhau.
Hawlio treuliau
Mae’n bosibl y gallwch hawlio costau am fynd i’r gwrandawiad. Mae hyn yn cynnwys arian ar gyfer:
- costau teithio
- enillion a gollwyd
- bwyd a diod, os ydych i ffwrdd am fwy na 5 awr
Darllenwch y canllawiau ar hawlio treuliau.