Ar ôl ichi wneud cais

Byddwch yn cael gwybod pan fydd y tribiwnlys wedi cael eich cais. Byddwch yn cael gwybodaeth am eich hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol os na wnaethoch gynnwys manylion cynrychiolydd cyfreithiol yn eich cais.

Yn nes at amser y gwrandawiad, fe gewch gopïau o adroddiadau fel y gallwch wirio bod yr wybodaeth yn gywir a meddwl am unrhyw gwestiynau rydych eisiau eu gofyn.

Pryd fydd y gwrandawiad yn digwydd

Mae dyddiad y gwrandawiad yn dibynnu ar eich sefyllfa. Byddwch fel arfer yn cael gwrandawiad o fewn:

  • 10 diwrnod o wneud cais os ydych wedi eich cadw ar gyfer asesiad
  • 2 fis os ydych wedi eich cadw ar gyfer triniaeth
  • 4 mis os ydych yn ‘glaf wedi’i gyfyngu’ (cawsoch orchymyn cyfyngu gan Lys y Goron neu cawsoch eich trosglwyddo o’r carchar gyda chyfarwyddyd cyfyngu)

Gofyn am archwiliad cyn gwrandawiad

Gallwch ofyn am archwiliad cyn gwrandawiad gyda meddyg y tribiwnlys os ydych eisiau un. Bydd y meddyg yn gallu darllen eich cofnodion meddygol.

Os ydych wedi eich cadw ar gyfer asesiad, gofynnwch yn ysgrifenedig am yr archwiliad pan fyddwch yn anfon eich cais i’r tribiwnlys.

Os ydych wedi eich cadw ar gyfer triniaeth neu os ydych wedi cael gorchymyn neu gyfarwyddyd cyfyngu, mae’n rhaid i chi ofyn o leiaf pythefnos cyn y gwrandawiad.

Ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys EF
Tribiwnlys Haen-gyntaf (Iechyd Meddwl)
Blwch Post 11231
5ed Llawr
Caerlŷr
LE1 8FR

mhtenquiries@justice.gov.uk

Gall eich archwiliad cyn-wrandawiad gael ei gynnal wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo.

Bydd y tribiwnlys hefyd yn cael adroddiadau gan:

  • eich ‘clinigydd cyfrifol’ (gall fod yn feddyg, nyrs, seicolegydd neu weithiwr meddygol proffesiynol arall)
  • y tîm gwaith cymdeithasol sy’n gyfrifol am eich gofal
  • y tîm nyrsio sy’n gyfrifol am eich gofal, os ydych wedi eich cadw mewn ysbyty
  • yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, os ydych wedi cael gorchymyn neu gyfarwyddyd cyfyngu
  • eich goruchwyliwr cymdeithasol, os ydych wedi cael gorchymyn neu gyfarwyddyd cyfyngu ac rydych yn byw yn y gymuned ar ryddhad amodol

Os nad ydych eisiau parhau gyda’ch cais

Ysgrifennwch at y tribiwnlys cyn gynted â phosibl os nad ydych yn dymuno parhau gyda’ch cais. Bydd y tribiwnlys yn penderfynu a fydd yn derbyn eich cais i dynnu’n ôl.

Ni allwch dynnu eich achos yn ôl os cafodd ei gyfeirio’n awtomatig i’r tribiwnlys, ond nid oes rhaid i chi fynd i’r gwrandawiad os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.