Gwneud Cais i’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl
Trosolwg
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch wneud cais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Iechyd Meddwl) os ydych wedi eich cadw fel claf mewn ysbyty seiciatrig ac rydych eisiau cael eich rhyddhau.
Gallwch hefyd wneud cais i’r tribiwnlys os ydych eisiau newid:
- gorchymyn triniaeth cymunedol
- gorchymyn gwarcheidiaeth
- rhyddhad amodol i ryddhad diamod
- yr amodau mewn rhyddhad amodol
Mae’r tribiwnlys yn annibynnol o’r llywodraeth a bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.
Mae’r tribiwnlys yn delio ag achosion yn Lloegr. Mae yna reolau gwahanol ar gyfer Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru a Thribiwnlys Iechyd Meddwl yr Alban.
Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais eich hun.
Gallwch hefyd ofyn i rywun wneud cais ar eich rhan, cyn belled nad ydynt yn glaf mewn ysbyty iechyd meddwl. Er enghraifft, gallant fod yn gynrychiolydd cyfreithiol neu’n aelod o’r teulu.
Gall eich ‘perthynas agosaf’ wneud cais heb eich caniatâd.
Pryd y gallwch wneud cais
Mae pryd y gallwch wneud cais yn dibynnu ar sut y cawsoch eich cadw, megis os ydych yn ‘glaf wedi’i gyfyngu’ (cawsoch orchymyn cyfyngu gan Lys y Goron neu cawsoch eich trosglwyddo o’r carchar gyda chyfarwyddyd cyfyngu).
Os ydych yn ansicr ynglŷn â sut y cawsoch eich cadw, gofynnwch i’ch:
- ‘clinigydd cyfrifol’ (gall fod yn feddyg, nyrs, seicolegydd neu weithiwr meddygol proffesiynol arall)
- cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych un
Os nad ydych yn gwneud cais, mae’n bosibl y byddwch yn parhau i gael eich atgyfeirio i’r tribiwnlys yn awtomatig.
Os ydych wedi eich cadw ar gyfer asesiad (‘adran 2’)
Gallwch wneud cais o fewn y 14 diwrnod cyntaf i chi gael eich cadw.
Os ydych wedi eich cadw ar gyfer triniaeth (‘adran 3’)
Gallwch wneud cais unrhyw bryd o fewn y 6 mis cyntaf i chi gael eich cadw.
Os ydych wedi eich cadw am fwy na 6 mis, gallwch wneud cais unwaith yn ystod yr ail gyfnod o 6 mis, ac yna unwaith ym mhob cyfnod o 12 mis.
Os nad ydych yn gwneud cais, byddwch yn cael eich cyfeirio i’r tribiwnlys yn awtomatig yn ystod yr ail 6 mis. Byddwch yn cael eich cyfeirio eto ar ôl 3 blynedd (os ydych yn oedolyn) neu ar ôl 12 mis (os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc).
Os ydych wedi eich cadw gan orchymyn llys (‘adran 37’)
Gallwch wneud cais rhwng 6 i 12 mis o ddyddiad y gorchymyn a wnaed gan y llys. Ar ôl hynny, gallwch wneud cais unwaith ym mhob cyfnod o 12 mis.
Os ydych yn glaf cyfyngedig sydd wedi’i gadw o dan ‘adran 37’ ac ‘adran 41’.
Gallwch wneud cais rhwng 6 a 12 mis o ddyddiad y gorchymyn ysbyty a wnaed gan y llys. Ar ôl hynny, gallwch wneud cais unwaith ym mhob cyfnod o 12 mis.
Os ydych yn glaf cyfyngedig sydd wedi’i ryddhau ar amod
Gallwch wneud cais 12 mis ar ôl i chi gael eich rhyddhau ar amod. Ar ôl hynny, gallwch wneud cais unwaith bob 2 flynedd.
Os ydych wedi eich cadw am unrhyw reswm arall
Gofynnwch i’ch clinigydd cyfrifol neu’ch cynrychiolydd cyfreithiol pryd y gallwch wneud cais.
Cymorth gallwch ei gael
Os ydych wedi gwneud y cais, gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol ar gyfer costau unrhyw cyngor cyfreithiol rydych yn ei gael.
Gallwch:
- ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol sy’n lleol i chi
- gofyn i’r gweinyddwr Deddf Iechyd Meddwl yn yr ysbyty i roi eu rhestr o gynrychiolwyr cyfreithiol arbenigol i chi
- gofyn i’r tribiwnlys ddod o hyd i gynrychiolydd cyfreithiol i chi pan fyddwch yn gwneud cais.
Gallwch hefyd gael cyngor gan: