Treth ar bensiwn preifat rydych yn ei etifeddu
Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu treth ar daliad yr ydych yn cael o gronfa bensiwn person ar ôl iddo farw.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pwy sy’n gallu cael taliadau
Fel arfer, bydd y person a fu farw wedi’ch enwebu (yn agor tudalen Saesneg) (wedi rhoi gwybod i’r darparwr pensiwn i roi arian o’i gronfa bensiwn i chi).
Fodd bynnag, gall y darparwr pensiwn dalu’r arian i rywun arall, er enghraifft, os nad oes modd dod o hyd i’r person enwebedig neu os yw’r person hwnnw wedi marw.
Fel arfer, gall pensiwn o gronfa buddiannau diffiniedig dim ond cael ei dalu i ddibynnydd y person a fu farw, er enghraifft, gŵr, gwraig, partner sifil neu blentyn o dan 23 oed. Weithiau, gall y pensiwn gael ei dalu i rywun arall os yw rheolau’r cynllun pensiwn yn caniatáu hyn - ond bydd yn cael ei drethu hyd at 55% fel taliad heb ei awdurdodi.
Trosglwyddo cronfa bensiwn rydych wedi’i hetifeddu
Os ydych yn etifeddu cronfa cyfraniadau diffiniedig gallwch enwebu rhywun i gael unrhyw swm o arian nad ydych wedi’i ddefnyddio cyn eich marwolaeth. Mae’n rhaid i’r arian fod mewn cronfa a gyrchir yn hyblyg pan fyddwch yn marw.
Pan fyddwch yn talu treth
Fel arfer, mae p’un a ydych yn talu treth yn dibynnu ar y canlynol:
- y math o daliad rydych yn ei gael
- y math o gronfa bensiwn
- oedran perchennog y gronfa bensiwn pan fu farw
Taliad | Math o gronfa | Oedran y perchennog pan fu farw | Treth rydych fel arfer yn ei thalu |
---|---|---|---|
Mwyafrif o gyfandaliadau | Cyfraniadau diffiniedig neu fuddiannau diffiniedig | O dan 75 | Dim treth, oni bai bod eich cyfandaliad yn uwch na lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth (yn agor tudalen Saesneg) perchennog y gronfa bensiwn |
Mwyafrif o gyfandaliadau | Cyfraniadau diffiniedig neu fuddiannau diffiniedig | 75 oed neu’n hŷn | Treth Incwm a ddidynnwyd gan y darparwr |
Cyfandaliad Cymudiad pitw | Cyfraniadau diffiniedig neu fuddiannau diffiniedig | Unrhyw oedran | Treth Incwm a ddidynnwyd gan y darparwr |
Blwydd-dal neu arian o gronfa a gyrchir yn hyblyg newydd (a sefydlwyd neu a droswyd a gyrchwyd am y tro cyntaf o 6 Ebrill 2015) | Cyfraniadau diffiniedig | O dan 75 oed | Dim treth |
Arian o hen gronfa a gyrchir yn hyblyg (cronfa ‘wedi’i chapio’ neu gronfa a chyrchir am y tro cyntaf cyn 6 Ebrill 2015) | Cyfraniadau diffiniedig | O dan 75 oed | Treth Incwm a ddidynnwyd gan y darparwr |
Blwydd-dal neu arian o gronfa a gyrchir yn hyblyg | Cyfraniadau diffiniedig | 75 oed neu’n hŷn | Treth Incwm a ddidynnwyd gan y darparwr |
Pensiwn a ddarparwyd gan y cynllun | Cyfraniadau diffiniedig neu fuddiannau diffiniedig | Unrhyw oedran | Treth Incwm a ddidynnwyd gan y darparwr |
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth os oedd perchennog y gronfa pensiwn o dan 75 oed pan fu farw a bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae’r cyfandaliad yn cael ei dalu i chi mwy na 2 flynedd ar ôl i’r darparwr pensiwn gael gwybod am y farwolaeth
- mae’r cyfandaliad yn uwch na lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth (yn agor tudalen Saesneg) y perchennog
- bu farw cyn 3 Rhagfyr 2014 ac rydych yn prynu blwydd-dal o’r gronfa
Os yw’r cyfandaliad yn cael ei dalu i chi mwy na 2 flynedd ar ôl i’r darparwr pensiwn gael gwybod am y farwolaeth
Bydd angen i chi dalu Treth Incwm ar y cyfandaliad cyfan.
Bydd y darparwr pensiwn yn didynnu unrhyw dreth sy’n ddyledus cyn gwneud y taliad i chi.
Mae’n rhaid i’r person sy’n delio gyda’r ystâd rhoi gwybod i’r darparwr pensiwn am y farwolaeth cyn pen 13 mis i’r farwolaeth neu 30 diwrnod ar ôl iddo sylweddoli bod arnoch dreth (pa un bynnag sydd hwyraf).
Os ydych yn cael taliad buddiant marwolaeth sy’n uwch na lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth perchennog y gronfa bensiwn
Mae cyfandaliadau buddiant marwolaeth yn cynnwys:
- buddiannau diffiniedig
- arian heb ei grisialu
- diogelu pensiwn
- diogelu blwydd-dal
- arian a gyrchir yn hyblyg o gronfa bensiwn
- pensiwn a godir o’r gronfa
Mae’n rhaid i’r person sy’n delio gyda’r ystâd rhoi gwybod i CThEF os yw’r cyfandaliadau buddiant marwolaeth a dalwyd i’r buddiolwyr yn mynd dros lwfans cyfandaliadau a buddiant marwolaeth (yn agor tudalen Saesneg) y person a fu farw. Dim ond os oedd y person a fu farw o dan 75 oed y mae hyn yn berthnasol.
Mae’n rhaid iddo roi gwybod i CThEF cyn pen 13 mis i’r farwolaeth neu 30 diwrnod ar ôl iddo sylweddoli bod treth yn ddyledus (pa un bynnag sydd hwyraf).
Bydd angen i chi dalu Treth Incwm ar unrhyw daliadau rydych yn eu cael sy’n uwch na lwfans cyfandaliad a buddiant marwolaeth y person a fu farw.
Bydd CThEF hefyd yn anfon hysbysiad atoch yn rhoi gwybod i chi’r hyn sydd arnoch a sut i dalu.
Os ydych yn cael blwydd-dal a bu farw perchennog y gronfa cyn 3 Rhagfyr 2014
Os ydych yn prynu blwydd-dal o’r gronfa, mae’r darparwr pensiwn yn didynnu Treth Incwm o daliadau cyn i chi eu cael.
Treth Etifeddiant
Fel arfer, nid ydych yn talu Treth Etifeddiaeth ar gyfandaliad oherwydd, fel arfer, mae’r taliad ‘yn ôl disgresiwn’ – mae hyn yn golygu y gall y darparwr pensiwn ddewis p’un a fydd yn cael ei dalu i chi ai peidio.
Gofynnwch i’r darparwr pensiwn a oedd talu’r cyfandaliad yn ôl disgresiwn. Os nad oedd y taliad yn un yn ôl disgresiwn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant.
Os ydych wedi talu gormod o dreth
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad pob blwyddyn, byddwch yn cael ad-daliad ar ôl i chi anfon eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os nad ydych yn gwneud hyn, bydd y ffurflen y byddwch yn ei llenwi er mwyn hawlio eich ad-daliad yn dibynnu ar p’un a yw’r taliadau:
- wedi gwagio’r gronfa bensiwn ac nid oes gennych unrhyw incwm arall yn ystod y flwyddyn dreth
- wedi gwagio’r gronfa bensiwn ac mae gennych incwm trethadwy arall
- heb wagio’r gronfa bensiwn ac nid ydych yn cymryd taliadau rheolaidd
Mae ffordd wahanol er mwyn hawlio os daeth eich taliad o ymddiriedolaeth.