Canllawiau

Hawlio Treth Incwm yn ôl ar gyfandaliad buddiant marwolaeth pensiwn os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio P50Z(DB)

Sut i hawlio ad-daliad yn y flwyddyn dreth bresennol ar gyfandaliad buddiant marwolaeth pensiwn os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio.

Gallwch hawlio’n ôl y dreth sydd arnom i chi ar gyfandaliad buddiant marwolaeth pensiwn os ydych wedi gwagio’ch cronfa bensiwn ac mae’r canlynol yn berthnasol:

Gallwch hefyd hawlio os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi ymddeol yn barhaol ac nid ydych yn cael pensiwn gan eich hen gyflogwr
  • rydych wedi dychwelyd i addysg amser llawn

Cyn i chi ddechrau

Arhoswch 4 wythnos ar ôl i’r dyddiad y gwnaethoch roi’r gorau i weithio, neu’r dyddiad pan ddaeth eich pensiwn i ben, cyn anfon y ffurflen hon.

Cadwch unrhyw waith papur sy’n ymwneud â’ch hawliad nes ein bod wedi cwblhau’r gwiriadau hyn.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth (yn Saesneg), nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen hon. Gallwch wirio sut i wneud hawliad o dan gytundeb trethiant dwbl (yn Saesneg).

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth:

  • peidiwch â chynnwys unrhyw incwm Hunanasesiad sydd wedi’i amcangyfrif yn eich hawliad, oni bai eich bod am i ni ei gynnwys wrth gyfrifo’ch ad-daliad
  • bydd dal angen i chi dalu unrhyw daliadau mantoli sy’n ddyledus, a thaliadau ar gyfrif pan ddaw’r amser i’w talu — gallwch ofyn i ni ddefnyddio’ch ad-daliad i ostwng eich taliadau ar gyfrif
  • dylech gynnwys unrhyw ad-daliad yr ydych wedi’i gael ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad nesaf
  • mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pan nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach

Os oes gennych incwm TWE (Talu Wrth Ennill) ac incwm Hunanasesiad, ni fyddwn yn cynnwys incwm Hunanasesiad wrth gyfrifo’ch ad-daliad, oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeirnod TWE y cyflogwr
  • rhan 2 a rhan 3 o’ch P45 — os nad oes gennych hyn, bydd yn rhaid i chi esbonio pam (er enghraifft, efallai eich bod wedi ymddeol neu’n un o weision y Goron yn y DU a gyflogir dramor)
  • enw a chyfeiriad eich enwebai — os nad ydych am i’r ad-daliad cael ei anfon i’ch cyfeiriad

Bydd angen i chi hefyd rhoi gwybod i ni faint rydych yn disgwyl ei gael o’r canlynol:

  • eich cyfandaliad buddiant marwolaeth
  • incwm o gyflogaeth
  • incwm o hunangyflogaeth
  • unrhyw fudd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth — megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd
  • unrhyw incwm arall — yn cynnwys o eiddo, ymddiriedolaethau, comisiynau

Dylech ddefnyddio:

  • ffigurau wedi’u hamcangyfrif os nad oes gennych y ffigurau terfynol
  • rhifau cyfan, wedi’u talgrynnu i lawr i’r bunt agosaf

Byddwn yn cynnal gwiriadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth, ac yn cysylltu â chi os yw’r swm yn wahanol.

Dulliau o hawlio

I ddechrau eich hawliad ar-lein.

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd.

  2. Llenwch ffurflen P50Z(DB).

  3. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein


Ffurflen P50Z(DB)

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.
  1. Argraffwch y ffurflen.

  2. Llenwch y ffurflen â llaw.

  3. Anfonwch y ffurflen drwy’r post i CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).

Yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi hawlio

Unwaith bod eich hawliad (wedi’i gwblhau) yn dod i law, byddwn yn cadarnhau os yw ad-daliad yn ddyledus i chi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Gall gymryd 30 diwrnod i gael ymateb. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwnnw i weld hynt eich hawliad.

Byddwn yn anfon siec atoch chi neu’ch enwebai.

Cyhoeddwyd ar 29 February 2024