Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Gwneud cytundeb drwy gyfryngu
Gallwch ddefnyddio cyfryngwr i’ch helpu chi a’ch cyn-bartner gytuno ar drefniadau plant. Yn aml, gall hyn olygu nad oes rhaid i chi fynd i’r llys.
Mae cyfryngwr yn weithiwr proffesiynol a fydd yn gweithio gyda chi i’ch helpu i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar les gorau eich plentyn. Byddant yn gwrando ar y ddau riant heb gymryd ochr.
Os yw’n briodol, gall cyfryngwr siarad â’ch plentyn am beth maent eisiau. Gelwir hyn yn ‘gyfryngu plentyn-gynhwysol’.
Gallwch fynychu sesiynau wyneb yn wyneb neu o bell (er enghraifft drwy fideo neu dros y ffôn). Nid oes rhaid i chi fod yn yr un ystafell neu ar yr un alwad a’ch cyn-bartner.
Nid yw cyfryngu yr un peth â chwnsela.
Bydd angen i chi ddefnyddio cyfryngwr ardystiedig. Chwiliwch am gyfryngwr lleol ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol.
Sut all cyfryngu eich helpu
Gall cyfryngwr eich helpu chi a’ch cyn-bartner i gytuno ar drefniadau ynghylch gofalu am eich plentyn, megis:
- ble maent yn byw
- pryd fyddant yn treulio amser gyda phob rhiant
- pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy’n digwydd (galwadau ffôn, er enghraifft)
- sut i dalu am gostau byw eich plentyn (er enghraifft, tai a gofal dydd i ddydd)
Cyn i chi ddechrau ar gyfryngu
Efallai y bydd angen i chi fynychu cyfarfod cychwynnol gyda chyfryngwr. Gelwir hwn weithiau yn Gyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM).
Yn y cyfarfod, bydd y cyfryngwr yn rhoi cyngor i chi am y broses gyfryngu, trafod eich sefyllfa gyda chi a’ch helpu i benderfynu a yw cyfryngu yn iawn i chi. Efallai y byddant hefyd yn egluro ffyrdd eraill y gallwch gytuno ar drefniadau plant heb fynd i’r llys.
Os byddwch yn penderfynu mynd i’r llys, gan amlaf bydd angen i chi ddangos eich bod wedi mynychu MIAM cyn i chi wneud cais. Os ydych yn mynychu MIAM ond nad yw eich cyn-bartner yn gwneud hyn, gallwch dal wneud cais i fynd i’r llys.
Ni fydd rhaid i chi fynychu MIAM mewn rhai amgylchiadau, er enghraffit os oes tystiolaeth o gamdriniaeth ddomestig.
Bydd angen i chi ddefnyddio cyfryngwr ardystiedig. Chwiliwch am gyfryngwr lleol ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol.
Ar ôl i chi fynychu MIAM
Bydd y cyfryngwr yn llofnodi ffurflen sy’n dangos eich bod wedi mynychu. Bydd angen i ddangos y ffurflen hon os byddwch yn gwneud cais i fynd i’r llys. Dim ond cyfryngwr sydd wedi’i achredu gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol all lofnodi’r ffurflen.
Faint mae MIAM yn costio
Bydd cost MIAM yn dibynnu ar y cyfryngwr byddwch yn dewis. Y gost arferol yw tua £120. Bydd angen i chi a’ch cyn-bartner fynychu MIAM ar wahân.
Ni fydd rhaid i chi dalu am MIAM os ydych chi neu’ch partner yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.
Faint mae cyfryngu’n costio
Gan amlaf, mae cyfryngu yn rhatach ac yn gyflymach na mynd i’r llys.
Mae cost MIAM ar wahân i gost cyfryngu.
Bydd angen i chi a’ch cyn-bartner penderfynu sut y bydd cost cyfryngu yn cael ei rannu.
Cael hyd at £500 tuag at gost cyfryngu
Fel arfer gallwch gael taleb gwerth hyd at £500 i dalu am gyfryngu teuluol, waeth faint rydych yn ennill.
Fel arfer bydd y daleb yn talu am o leiaf 2 sesiwn gyfryngu, gan ddibynnu ar lle rydych yn byw a’r math o gyfryngu. Er enghraifft, gallai cyfryngu lle mae pob rhiant mewn ystafell ar wahân gostio mwy.
Ni allwch ddefnyddio’r daleb i dalu am gost mynychu MIAM. Gellir ond ei defnyddio ar gyfer talu am sesiynau cyfryngu.
Dim ond un taleb allwch chi a’ch cyn-bartner ei defnyddio ar y cyd i dalu am eich costau cyfryngu hyd at £500 - ni allwch wneud cais am fwy nag un taleb.
Darllenwch fwy am sut mae Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol yn gweithio.
Sut i gael taleb cyfryngu
Gofynnwch i gyfryngwr achrededig wneud cais am daleb i chi. Nid oes rhaid i chi dalu ymlaen llaw am unrhyw sesiynau y bydd y daleb yn talu amdanynt.
Cymorth cyfreithiol
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu os ydych ar incwm isel.
Os ydych chi a’ch cyn-bartner yn gymwys am gymorth cyfreithiol
Bydd cymorth cyfreithiol yn talu am:
- MIAM
- unrhyw sesiynau cyfryngu sydd eu hangen ar ôl y MIAM
- gwneud cais am orchymyn cydsynio (dogfen sy’n gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol)
Os mai dim ond un rhiant sy’n gymwys am gymorth cyfreithiol
Bydd cymorth cyfreithiol yn talu am:
- MIAM
- y sesiwn gyfryngu gyntaf ar gyfer y ddau riant ar ôl y MIAM
Bydd hefyd yn talu am unrhyw gostau eraill y rhiant sy’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Ni fydd yn talu am gostau’r rhiant arall.
Gwiriwch a allwch gael cymorth cyfreithiol
Beth fydd yn digwydd nesaf
Os byddwch yn dod i gytundeb, byddwch yn cael dogfen ar ddiwedd y cyfryngu yn dangos yr hyn y gwnaethoch chi a’r rhiant arall gytuno arno. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall.
Os ydych eisiau gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol, dylech gyflogi cyfreithiwr. Byddant yn ddrafftio gorchymyn cydsynio. Gallwch wedyn wneud cais i’r llys i ofyn i farnwr neu ynad adolygu a chadarnhau’r gorchymyn.
Os yw’r cyfryngwr o’r farn nad yw cyfryngu yn iawn i chi, efallai y byddant yn eich cynghori i fynd i’r llys yn lle hynny.
Cymorth a chefnogaeth
Darllenwch fwy am ffyrdd eraill o gytuno heb fynd i’r llys.
Gallwch hefyd:
- ddarllen mwy am gyfryngu teuluol ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol
- cysylltu â Chyngor ar Bopeth
- riportio camdriniaeth ddomestig, neu gysylltu â sefydliadau all gynnig cymorth a chefnogaeth i chi