Canllawiau

Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol

Yma, cewch wybod a ydych chi’n gymwys ar gyfer y Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol a sut i wneud cais.

Applies to England and Wales

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi lansio cynllun talebau a fydd yn cyfrannu hyd at £500 tuag at gostau cyfryngu ar gyfer achosion cymwys, gan gefnogi pobl i ddatrys eu hanghydfodau cyfraith teulu y tu allan i’r llys, lle bo hynny’n briodol.

Beth yw cyfryngu teuluol?

Mae cyfryngu teuluol yn broses lle bydd cyfryngwr annibynnol hyfforddedig yn eich helpu i gytuno ar drefniadau gyda rhywun arall (e.e. cyn-bartner) sy’n ymwneud â phlant, cyllid neu eiddo.

Mae’r cyfryngwr yno i’ch helpu i ddelio ag anghytundeb a dod o hyd i atebion sy’n gweithio i’r ddau ohonoch chi, ac esbonio sut i rwymo’r cytundeb dan gyfraith, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am orchymyn llys mewn perthynas â sawl math o anghydfod cyfraith teulu, rhaid i chi ddangos i’r llys eich bod wedi ystyried cyfryngu teuluol, drwy fod wedi mynychu Cyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (sy’n cael ei alw’n MIAM), oni bai eich bod wedi’ch eithrio.

Sut alla i gael gafael ar wasanaeth cyfryngu pan fo cyfyngiadau Covid ar waith?

Mae gwasanaethau cyfryngu wedi bod yn gweithredu’n ddiogel drwy gydol y cyfnod clo, ar-lein yn bennaf. Bydd eich cyfryngwr yn gallu egluro sut mae’r broses yn gweithio, a sicrhau eich bod yn gallu derbyn eu gwasanaeth.

Beth yw’r Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol?

Mae’r cynllun talebau cyfryngu teuluol yn gynllun am gyfnod penodol, sydd wedi’i gynllunio i gefnogi partïon a allai ddatrys eu hanghydfodau cyfraith teulu y tu allan i’r llys. Mae’r Llywodraeth wedi sefydlu’r cynllun mewn ymateb i Covid-19, i gefnogi adferiad yn y llys teulu, ac i annog mwy o bobl i ystyried cyfryngu fel ffordd o ddatrys eu hanghydfodau, lle bo hynny’n briodol. I gefnogi hyn, bydd cyfraniad ariannol o hyd at £500 yn cael ei ddarparu tuag at gostau cyfryngu, i deuluoedd cymwys.

Dim ond cyfryngwyr a awdurdodir gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol sy’n cymryd rhan yn y cynllun talebau.

Pam allai cyfryngu fod o fudd i mi?

Mae cyfryngu teuluol yn eich galluogi i gadw rheolaeth. Yn wahanol i’r llys, lle bydd barnwr yn gwneud y penderfyniadau am blant a threfniadau ariannol, wrth gyfryngu byddwch chi a’r person arall/pobl eraill yn penderfynu beth rydych chi’n cytuno iddo a beth nad ydych y cytuno iddo. O ran eich plant, gall cyfryngu eich helpu i roi lles eich plentyn yn gyntaf.

Gall cyfryngu fod yn llai o straen ac yn llawer cyflymach na mynd i’r llys, felly gall fod yn ffordd effeithlon o ddatrys anghydfodau. Os na allwch chi ddod i gytundeb, mae gennych chi’r hawl o hyd i fynd i’r llys. Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth cyfryngu teuluol ar ôl i chi wneud cais i’r llys.

Gall fod yn anodd i rieni sydd wedi gwahanu neu aelodau eraill o’r teulu sydd mewn anghydfod siarad â’i gilydd a chydweithio i ddod o hyd i atebion. Mae cyfryngu teuluol yn darparu strwythur diogel a chefnogol i gytuno ar y trefniadau gorau ar gyfer plant, yn ogystal ag ystyriaethau eraill fel sut i rannu asedau ac arian, a ble byddwch chi a’ch plant yn byw.

Gall cyfryngu teuluol hefyd helpu pan fydd amgylchiadau’n newid, sy’n golygu bod angen i chi wneud trefniadau newydd. Er enghraifft, wrth i blant dyfu i fyny, gall cyfryngwyr teuluol eich helpu i gytuno ar newidiadau i’r trefniadau ar gyfer plant heb orfod mynd i’r llys.

Oes rhaid i mi fod yn yr un ystafell â’r person rwyf yn cyfryngu ag ef/hi?

Wrth gyfryngu, mae’n dal yn bosibl dod i gytundeb heb fod yn yr un ystafell neu le â’r person arall – does dim rhaid i chi dreulio amser gyda’r person rydych yn cyfryngu ag ef/hi os ydych yn dewis peidio. Gall eich cyfryngwr eich helpu i ddod o hyd i ffordd o ddatrys eich anghytundeb heb gael cysylltiad uniongyrchol.

Sut ydw i’n gwneud cais am daleb gyfryngu?

Yn eich MIAM, bydd y cyfryngwr yn trafod y cynllun talebau gyda chi os yw eich achos yn gymwys. Cynigir cyfraniad ‘taleb’ i chi, yn dibynnu ar addasrwydd, y math o achos ac argaeledd y talebau.

Beth yw MIAM?

Cyn gwneud cais i’r llys am rai mathau o orchmynion cyfraith teulu, bydd gofyn i chi fynd i Gyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM) oni bai fod gennych eithriad dilys.

Mae MIAM yn gyfarfod byr gyda chyfryngwr cymwys, lle byddwch yn cael gwybodaeth am gyfryngu fel ffordd o ddatrys eich problemau. Bydd y cyfryngwr yn asesu a yw cyfryngu yn opsiwn priodol ar sail eich amgylchiadau unigol. Bydd angen i’r ddau barti gymryd rhan mewn MIAM cyn ymgymryd â chyfryngu y gallan nhw fynd iddo gyda’i gilydd, neu ar wahân.

Dim ond cyfryngwyr sydd ag ‘Achrediad y Cyngor Cyfryngu Teuluol’ gaiff lofnodi ffurflenni llys i gadarnhau eu bod wedi cymryd rhan mewn MIAM neu fod rhai eithriadau’n berthnasol.

Oes rhaid i mi dalu am MIAM cyn derbyn gwasanaeth cyfryngu?

Os ydych chi neu’r rhiant/person arall yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, bydd y ddau ohonoch yn gymwys i gael MIAM am ddim (gyda chyfryngwyr sy’n gwneud gwaith cymorth cyfreithiol).

Os nad yw’r naill na’r llall ohonoch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, bydd yn rhaid i chi dalu am y MIAM. Mae’n costio tua £90 y person. Gall y ffioedd a amcangyfrifir amrywio yn ôl eich lleoliad a phrofiad y cyfryngwr. Mae rhai cyfryngwyr yn cynnig gostyngiadau os ydych chi’n ddi-waith neu ar incwm isel.

Gweld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol

A oes modd defnyddio’r daleb gwasanaeth cyfryngu i dalu am MIAM?

Na, dim ond i dalu am sesiynau cyfryngu y gallwch chi ddefnyddio’r daleb gyfryngu. Bydd yn rhaid i chi dalu am eich MIAM yn gyntaf, oni bai eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.

Sut ydw i’n gwybod os ydw i’n gymwys am daleb gyfryngu?

Ar ôl cymryd rhan mewn MIAM, bydd cyfryngwr hyfforddedig yn asesu’r materion y byddwch yn ceisio eu datrys i weld a ydynt yn addas ar gyfer cyfryngu ac yn bodloni’r gofynion cymhwyso ar gyfer y cynllun talebau. Nid yw pob achos yn gymwys dan y cynllun. Mae’r mathau o achosion a nodir isod yn gymwys i gael taleb gyfryngu:

  • anghydfod/cais yn ymwneud â phlentyn
  • anghydfod/cais yn ymwneud â materion ariannol teuluol lle rydych chi hefyd ynghlwm ag anghydfod/cais sy’n ymwneud â phlentyn

Mae’n bwysig cofio mai dim ond pan fydd y ddau berson yn cytuno i gymryd rhan y bydd cyfryngu yn opsiwn. Felly, bydd angen i chi a’r person arall gytuno i gyfryngu.

Sut bydda i’n cael y daleb?

Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen â’r broses gyfryngu, a’ch bod yn gymwys i gael y daleb, bydd eich cyfryngwr yn gwneud cais am gyllid drwy dalebau, a bydd yn cael ei thalu’n uniongyrchol iddynt ar ôl cwblhau’r holl sesiynau cyfryngu. Ni fyddwch yn cael taleb ffisegol, ac ni fydd angen i chi wneud cais amdani.

Nifer cyfyngedig o dalebau sydd ar gael, a byddant yn cael eu cynnig i bartïon cymwys nes nad oes rhagor ohonynt ar gael. Bydd eich cyfryngwr yn rhoi gwybod i chi a oes talebau ar gael.

Beth sy’n rhaid i mi ei wneud i gymryd rhan yn y cynllun?

Bydd gofyn i chi gadarnhau:

  • eich bod wedi gofyn i’r cyfryngwr wneud cais am y daleb
  • nad ydych chi wedi gwneud cais am daleb arall yn barod fel rhan o’r un cynllun
  • eich bod wedi rhoi caniatâd i’ch cyfryngwr ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r Cyngor Cyfryngu Teuluol. Mae hyn yn cynnwys eich enw, y bil am wasanaethau cyfryngu y byddwch yn ei gael gan y cyfryngwr, a rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am eich achos.

Faint o dalebau fydda i’n eu cael?

Dim ond unwaith fesul teulu/achos y cewch chi hawlio cyfraniad untro o hyd at £500 tuag at eich costau cyfryngu.

Os oes gennych gais neu anghydfod yn ymwneud â phlentyn a bod gennych hefyd gais mater ariannol neu anghydfod yn parhau ar yr un pryd, dim ond hyd at £500 y gallwch ei dderbyn.

Os byddwch yn gwneud ail gais ac wedi cael taleb yn barod, ni chewch ail daleb dan y cynllun hwn.

A fydd y daleb yn talu fy holl gostau cyfryngu?

Bydd hyn yn dibynnu ar y cyfraddau a bennir gan y cyfryngwr o’ch dewis a faint o sesiynau cyfryngu sydd eu hangen. Bwriad y daleb yw cyfrannu tuag at sesiynau cyfryngu. Bydd eich cyfryngwr yn dweud wrthych beth yw eu cyfraddau a faint o sesiynau y mae’r daleb yn debygol o dalu amdanynt. Gan mai £500 yw cyfanswm gwerth y daleb, efallai y bydd angen i chi gyfrannu at gost lawn eich sesiynau os byddwch yn dewis parhau â’r broses gyfryngu.

Alla i gael taleb os ydw i’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol?

Gallwch, os ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallwch fod yn gymwys i gael taleb o hyd.

Mae’r cynllun talebau cyfryngu yn gyfraniad ariannol untro o hyd at £500 ac ni fydd yn talu am gost MIAM. Bydd cymorth cyfreithiol yn darparu cyllid ar gyfer y MIAM a phob sesiwn gyfryngu, os ydych chi’n gymwys.

Yn eich MIAM, bydd eich cyfryngwr a achredwyd gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol yn trafod eich opsiynau (gan gynnwys a ydynt yn gallu ymgymryd â gwaith cymorth cyfreithiol).

Mwy o wybodaeth am gymorth cyfreithiol

Alla i gael taleb os oes gan y person arall sy’n rhan o’r broses gyfryngu hawl i gael cymorth cyfreithiol??

Gallwch, mae’r talebau’n cael eu dyrannu fesul achos.

Os yw un person yn yr achos hwnnw’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol, mae’n dal yn bosibl i’r person arall wneud cais am daleb i gyfrannu tuag at eu costau cyfryngu. Os yw’r person arall yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ond nad ydych chi, yna bydd gennych hawl hefyd i gael cyllid cymorth cyfreithiol a fydd yn talu am gost y MIAM a’r sesiwn gyfryngu gyntaf.

A yw’r daleb gyfryngu ar gael ar gyfer materion rhwymedi ariannol?

Os yw eich materion yn ymwneud yn unig ag anghydfod/cais am rwymedi ariannol, ni fyddwch yn gallu cael taleb. Fodd bynnag, os yw eich materion yn ymwneud â phlentyn a mater rhwymedi ariannol, gallwch gael taleb, os oes rhai ar gael.

Sut ydw i’n gwybod os ydw i’n gymwys am gymorth cyfreithiol?

Gweld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol

Rwyf eisoes wedi bod mewn MIAM ac ni chefais wybodaeth am y cynllun hwn. Alla i dderbyn gwasanaeth cyfryngu a chael taleb nawr?

Daw’r cynllun talebau cyfryngu i rym ar 26 Mawrth 2021. Dim ond pan fyddwch chi wedi cymryd rhan mewn MIAM ar neu ar ôl y dyddiad hwn y gellir cael talebau.

Casglu data

Gofynnir i chi hefyd lenwi holiadur monitro byr. Nid oes rhaid i chi lenwi hwn.

Bydd gofyn i’ch cyfryngwr ddarparu rhywfaint o wybodaeth am eich achos, megis a ydych yn dod i gytundeb ac a ydych yn gofyn i’r llys ffurfioli cytundeb. Bydd y data a ddarperir yn cael ei wneud yn ddienw cyn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwybodaeth am y ffordd y defnyddiwyd y cynllun talebau a’r gwasanaethau cyfryngu.

Cyhoeddwyd ar 26 March 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 April 2021 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.