Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Ffyrdd eraill o gytuno heb fynd i'r llys
Mae yna ffyrdd eraill i’ch helpu i gytuno ar drefniadau plant tu allan i’r llys. Weithiau, gelwir y rhain yn ‘datrysiad y tu allan i’r llys’ (NCDR).
Gan amlaf, mae NCDR yn gyflymach na mynd i’r llys.
Bydd y math o ddatrysiad byddwch yn ei ddewis yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Er enghraifft eich sefyllfa ariannol, ble rydych yn byw a ph’un a ydych mewn cyswllt â’ch cyn-bartner.
Gallwch roi cynnar ar:
- drafod drwy gyfreithiwr
- cyfraith cydweithredol
- cyflafareddu
- gwerthuso niwtral
- cyfryngu
Os ydych yn penderfynu mynd i’r llys, fel arfer bydd angen i chi ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu cyn i chi wneud cais. Fel arfer gallwch gael taleb i dalu am gyfryngu teuluol, waeth faint rydych yn ennill.
Gall cynghorydd cyfreithiol eich helpu i benderfynu pa fath o ddatrysiad sy’n addas i chi. Gallant hefyd ddweud wrthych faint mae’n costio.
Os nad ydych mewn cyswllt â’ch cyn-bartner
Trafod drwy gydweithiwr
Os na allwch gysylltu â’ch cyn-bartner neu os nad ydynt yn eich ateb, gallwch chwilio am gynghorydd cyfreithiol i’ch helpu i drafod. Gelwir hyn yn ‘trafod drwy gydweithiwr’.
Nid oes rhaid i chi siarad â’ch cyn-bartner os byddwch yn dewis cyfreithiwr i drafod ar eich rhan.
Os ydych mewn cyswllt â’ch cyn-bartner
Gallwch dal drafod drwy gydweithiwr os ydych mewn cyswllt â’ch cyn-bartner ond mae yna opsiynau eraill ar gael i chi.
Cyfraith cydweithredol
Gallwch chi a’ch cyn-bartner gyflogi eich cynghorwyr cyfreithiol eich hun i’ch helpu i drafod. Yna byddwch i gyd yn cyfarfod i geisio cytuno ar drefniadau ar gyfer eich plant. Gelwir hyn yn ‘cyfraith cydweithredol’.
Chwilio am gynghorydd cyfreithiol
Cyflafareddu
Cyflafareddu yw pan fydd gweithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith (megis barnwr, cyfreithiwr neu fargyfreithiwr) yn gwrando ar ddadleuon y ddau ohonoch.
Chwiliwch am gyflafareddwr ar wefan Sefydliad Cyflafareddwyr Cyfraith Teulu
Gwerthuso niwtral
Gall gwerthuso niwtral eich helpu chi a’ch cyn-bartner i ddeall pa mor debygol ydyw y byddwch yn cael y trefniadau plant rydych eisiau yn y llys.
Bydd gweithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith (megis cyfreithiwr teulu neu farnwr) yn gwrando ar ddadleuon y ddau ohonoch. Yna byddant yn rhoi eu barn annibynnol ar beth allai’r llys benderfynu.
Mae’n rhaid i’r ddau riant fynychu cyfarfod gwerthuso niwtral.
Fe allai eich helpu i ddod i gytundeb heb fynd i’r llys a gallai hyn arbed amser ac arian i chi.
Mae gwerthuso niwtral yn wahanol i gyfryngu oherwydd ni all cyfryngwr ddweud wrthych beth allai canlyniad eich gorchymyn llys fod.
Chwiliwch am gynghorydd cyfreithiol i drefnu gwerthusiad niwtral.
Beth sy’n digwydd nesaf
Os byddwch yn dod i gytundeb, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Gallwch chi a’ch cyn-bartner gytuno i ddilyn beth sydd wedi’i gytuno.
Gofynnwch i’ch cyfreithiwr neu chwiliwch am gynghorydd cyfreithiol os ydych eisiau gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol. Byddant yn drafftio gorchymyn cydsynio. Yna gallwch wneud cais i’r llys neu ofyn i farnwr neu ynad adolygu a chadarnhau’r gorchymyn.
Cymorth neu gyngor
Gallwch ofyn i gynghorydd cyfreithiol am fathau eraill o ddatrysiad.
Gallwch hefyd:
- gysylltu â Chyngor ar Bopeth
- riportio camdriniaeth ddomestig neu gysylltu â sefydliadau a allai eich helpu a’ch cefnogi