Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Defnyddiwch y slip talu a anfonodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) gyda’ch hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr.

Peidiwch â defnyddio slip talu o’ch llyfryn talu gan y bydd eich taliad yn cael ei gredydu i’r cyfrif anghywir a chan ei bod yn bosibl y cewch nodynnau atgoffa i dalu.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod, sy’n 14 o gymeriadau, ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod ar eich hysbysiad o gosb. Mae bob amser yn dechrau gydag X.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc.