Skip to main content

Talu cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)

Sgipio cynnwys

 cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau), nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc.

Os na allwch dalu’ch cosb am gyflwyno’n hwyr yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.

Cyfeirnod

Bydd angen i chi ddefnyddio’r cyfeirnod talu ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer CIS. Mae’r cyfeirnod hwn yn 14 o gymeriadau, a bydd i’w weld ar eich hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Mae’r rhif hwn bob amser yn dechrau gydag ‘X’.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag adran ymholiadau CThEF ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.