Talu cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
- drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
- drwy ffonio’ch banc
Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001020
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Cyfeirnod
Bydd angen i chi ddefnyddio’r cyfeirnod talu, 14 cymeriad o hyd, ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) o’ch hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Mae’r rhif hwn bob amser yn dechrau gydag ‘X’.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor:
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB03BARC20114783977692
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.