Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Defnyddiwch y slip talu a anfonodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) gyda’ch hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), sy’n 14 o gymeriadau o hyd, ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod ar eich hysbysiad o gosb. Mae bob amser yn dechrau gyda ‘X’.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc.