Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod, sy’n 14 o gymeriadau, ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ar gefn y siec. Mae hyn bob amser yn dechrau gyda’r llythyren ‘X’. Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon.

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei ohirio os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Cofiwch gynnwys y slip talu a anfonodd CThEF atoch gyda’ch hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb oddi wrth CThEF.

Os nad oes gennych slip talu

Anfonwch eich siec gyda llythyr gyda’r manylion hyn:

  • enw’r cwmni

  • cyfeiriad

  • rhif ffôn

  • cyfeirnod y gosb

  • faint rydych yn ei dalu