Debyd Uniongyrchol

Bydd angen i chi drefnu Debyd Uniongyrchol newydd drwy gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein eich busnes i wneud taliad unigol.

Ni allwch ddefnyddio’ch Debyd Uniongyrchol misol neu chwarterol presennol ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS).

Bydd angen y cyfeirnod talu ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer CIS arnoch. Mae’r cyfeirnod hwn yn 14 cymeriad o hyd a gellir dod o hyd iddo ar eich hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Mae’r cyfeirnod hwn bob amser yn dechrau gydag ‘X’.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser i’w ganiatáu

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.