Skip to main content

Gwneud cais am benderfyniad untro gan y Llys Gwarchod

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn pryderu am les personol neu eiddo a materion ariannol rhywun sydd wedi colli galluedd meddyliol
  • rydych eisiau gwneud penderfyniad untro, er enghraifft i atal rhywun rhag ymweld ag unigolyn sydd wedi colli galluedd meddyliol mewn cartref nyrsio

Gallwch ond wneud cais i’r llys os oes anghytundeb sylweddol am benderfyniad mawr na ellir cytuno arno mewn unrhyw ffordd arall. Mae yna reolau cyffredinol ac enghreifftiau yng Nghod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Gwiriwch os oes gan rywun atwrnai neu ddirprwy yn gweithredu ar eu rhan cyn i chi wneud cais.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os yw’r unigolyn mewn risg dybryd

Gwnewch gais am orchymyn llys brys neu mewn argyfwng os ydych chi’n meddwl bod yr unigolyn mewn risg dybryd, er enghraifft os ydynt angen triniaeth feddygol ac ni allant gydsynio i hynny.

Os yw’r unigolyn angen cymorth hirdymor

Efallai y bydd rhaid i chi wneud cais i ddod yn ddirprwy os yw’r unigolyn angen cymorth hirdymor gyda phenderfyniadau yn ymwneud â’u lles personol neu eiddo a materion ariannol.