Skip to main content

Gwneud cais am benderfyniad untro gan y Llys Gwarchod

Sgipio cynnwys

Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwch yn clywed gan y Llys Gwarchod ar ôl i chi ‘gyflwyno hysbysiad’ (dweud wrth bobl eraill eich bod wedi gwneud cais).

Bydd y llys yn dweud wrthych:

  • os yw eich cais wedi’i gymeradwyo neu ei wrthod
  • bod rhaid i chi ddarparu mwy o wybodaeth i gefnogi eich cais, er enghraifft, adroddiad gan y gwasanaethau cymdeithasol
  • os yw am gynnal gwrandawiad i wneud penderfyniad, ac ymhle a phryd y bydd yn cael ei gynnal

Os cynhelir gwrandawiad

Mae’n rhaid i chi fynychu’r gwrandawiad. Fe gewch lythyr gyda dyddiad gwrandawiad (‘hysbysiad’) os bydd y llys yn penderfynu cynnal gwrandawiad.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr unigolyn rydych yn ceisio cael penderfyniad ar eu cyfer am y gwrandawiad:

  • o fewn 14 diwrnod i chi gael yr hysbysiad
  • o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad

Llenwch hysbysiad o achos (COP14) a’i roi i’r unigolyn rydych yn ceisio cael penderfyniad ar eu cyfer. Darllenwch y nodiadau canllaw os ydych angen cymorth.

Gall yr unigolyn gysylltu â’r Llys Gwarchod i gael cyngor a chymorth - mae’n rhaid i chi egluro hyn iddynt.

Y Llys Gwarchod
courtofprotectionenquiries@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 456 4600
Gwybodaeth am gost galwadau

Pan fyddwch wedi dweud wrthynt, anfonwch dystysgrif cyflwyno (COP20A) i’r Llys Gwarchod o fewn 7 diwrnod.

Bydd rhaid i chi dalu ffi o £500 os bydd y llys yn gwneud penderfyniad terfynol yn y gwrandawiad.

Cael penderfyniad

Os cynhelir gwrandawiad, fe gewch y penderfyniad ar ddiwedd y gwrandawiad neu’n ddiweddarach drwy’r post.

Fe gewch benderfyniad drwy’r post os na chynhelir gwrandawiad.

Herio penderfyniad

Gallwch wneud cais i’r llys i’r penderfyniad gael ei ail-ystyried os cafodd ei wneud heb gynnal gwrandawiad - defnyddiwch ffurflen (COP9).

Mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn 21 diwrnod i ddyddiad gwneud y penderfyniad.

Apelio yn erbyn penderfyniad

Mae’n rhaid i chi ofyn am ganiatâd i apelio os cynhaliwyd gwrandawiad. Lawrlwythwch a llenwch hysbysiad apelydd (COP35).

Mae’n rhaid i chi dalu £230 i wneud cais. Gallwch wneud cais am help i dalu’r ffi os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu ar incwm isel.