Skip to main content

Gwneud cais am benderfyniad untro gan y Llys Gwarchod

Sgipio cynnwys

Dweud wrth eraill eich bod wedi gwneud cais

Bydd y Llys Gwarchod yn anfon copi o’ch ffurflenni cais atoch - byddant yn cael eu stampio gyda dyddiad cychwyn.

Byddwch hefyd yn cael llythyr gan y llys yn dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.

Mae’n rhaid i chi ddweud (‘cyflwyno’) wrth bobl penodol am y cais o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad cychwyn.

Dweud wrth yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i gael penderfyniad untro ar eu cyfer

Rhaid i chi neu’ch cynrychiolydd ymweld â’r unigolyn a dweud wrthynt:

  • pwy sy’n gwneud cais i gael penderfyniad untro ar gyfer eu lles personol neu eiddo a materion ariannol
  • bod eu gallu i wneud penderfyniadau yn cael ei gwestiynu
  • beth fyddai’r penderfyniad untro yn ei olygu iddynt
  • ble i gael cyngor os ydynt eisiau trafod y cais

Rhaid i chi roi i’r unigolyn:

Gall yr unigolyn gael cyngor a chymorth gan y Llys Gwarchod.

Y Llys Gwarchod
courtofprotectionenquiries@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 456 4600
Gwybodaeth am gostau galwadau

Dweud wrth bobl sy’n gysylltiedig â’r cais

Rhaid i chi ddweud wrth y bobl a enwir yn eich cais ei fod wedi’i gyflwyno.

Anfonwch atynt:

Gallwch ddweud wrthynt:

  • drwy’r post
  • drwy ffacs neu e-bost
  • wyneb yn wyneb

Cadarnhau eich bod wedi dweud wrth y bobl berthnasol (‘cyflwyno hysbysiad’)

Mae’n rhaid i chi gadarnhau eich bod wedi dweud wrth y bobl berthnasol o fewn 7 diwrnod i chi anfon y ffurflenni. Lawrlwythwch a llenwch:

Weithiau gelwir y ffurflenni hyn yn ‘tystysgrifau cyflwyno’.

Mae’n rhaid i chi anfon y ddwy ffurflen i’r Llys Gwarchod ar yr un pryd.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA