Gwneud cais am benderfyniad untro gan y Llys Gwarchod
Sut i wneud cais
Lawrlwythwch a llenwch:
- ffurflen gais (COP1) - anfonwch y ffurflen wreiddiol a 2 gopi ohoni
- ffurflen adrodd ar gapasiti (COP3) - gofynnwch i feddyg yr unigolyn neu weithiwr proffesiynol meddygol arall lenwi’r rhannau perthnasol, ac anfonwch y ffurflen wreiddiol a chopi ohoni
Efallai y bydd angen i chi hefyd lawrlwytho a llenwi:
- gwybodaeth ategol ar gyfer penderfyniadau ynghylch eiddo a materion ariannol (COP1A) - dylech gynnwys unrhyw fanylion perthnasol arall drwy lenwi a dychwelyd ffurflen dyst (COP24) gyda’ch cais
- gwybodaeth ategol ar gyfer ceisiadau lles personol (COP1B) - anfonwch y ffurflen wreiddiol a chopi ohoni
Mae’n rhaid i chi dalu £432 i wneud cais. Gallwch wneud cais am help i dalu’r ffi os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu ar incwm isel.
Anfonwch siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’ gyda’ch ffurflenni wedi’u llenwi.
Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA
Darllenwch nodiadau canllaw y ffurflen gais (COP1) os ydych angen cymorth.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth:
- yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i gael penderfyniad untro ar eu cyfer
- y bobl sy’n gysylltiedig â’r cais
Dywedwch wrthynt ar ôl i chi wneud cais.