Gwneud cais brys neu gais mewn argyfwng i'r Llys Gwarchod
Gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod i gael gorchymyn llys brys neu mewn argyfwng mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft pan fydd bywyd neu les rhywun mewn risg ac mae’n rhaid gwneud penderfyniad heb oedi. Os bydd y llys yn cytuno, byddwch yn gallu gwneud y penderfyniad angenrheidiol ar ran yr unigolyn sydd â diffyg galluedd meddyliol.
Ni fyddwch yn cael gorchymyn llys oni bai bod y llys yn penderfynu ei fod yn fater difrifol gyda therfyn amser anochel.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwneud cais am orchymyn interim brys
Gallwch gael gorchymyn interim brys os ydych chi’n gwneud cais i ddod yn ddirprwy ond nad yw eich cais wedi’i gymeradwyo eto.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, gallwch wneud penderfyniad ar ran yr unigolyn arall.
Rhaid i’r gorchymyn fod ar gyfer penderfyniad untro penodol sydd angen ei wneud heb oedi, er enghraifft i gael arian o gyfrif banc yr unigolyn i dalu ffioedd cartref nyrsio sydd heb eu talu.
Nid oes ffi i’w thalu i wneud cais am orchymyn interim brys.
Os ydych eisoes wedi cyflwyno eich cais i ddod yn ddirprwy
Lawrlwythwch a llenwch hysbysiad o gais (COP9). Dylech gynnwys esboniad pam bod angen y penderfyniad ar frys ac na ellir aros nes byddwch wedi’ch penodi’n ddirprwy. Anfonwch y ddogfen wreiddiol ac un copi i’r llys.
Mae’n rhaid i chi hefyd anfon copïau o unrhyw dystiolaeth, er enghraifft cyfrifon neu anfoneb gan gartref nyrsio, ynghyd â’ch hysbysiad o gais.
Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA
Os nad ydych wedi cyflwyno eich cais i ddod yn ddirprwy
Pan fyddwch yn gwneud cais i ddod yn ddirprwy, gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- llenwi adran 1.3 o’ch ffurflen gais (COP1)
- cynnwys esboniad pam bod angen y penderfyniad ar frys ac na ellir aros nes byddwch wedi’ch penodi’n ddirprwy
- defnyddio ffurflen gais (COP24) os ydych angen mwy o le ar gyfer rhoi manylion
Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys copïau o unrhyw dystiolaeth, er enghraifft cyfrifon neu anfoneb gan gartref nyrsio, ynghyd â’ch cais.
Mae’n rhaid i chi dalu ffi pan fyddwch yn gwneud cais.
Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA
Gwneud cais am orchymyn mewn argyfwng
Gallwch wneud cais mewn argyfwng i’r Llys Gwarchod os ydych angen gorchymyn llys i wneud penderfyniad mewn sefyllfa ddifrifol iawn ac mae yna risg di-oed i’r unigolyn. Er enghraifft, i roi triniaeth iddynt ar gyfer problem feddygol ddifrifol na allant gydsynio iddi.
Bydd swyddog materion brys yn trafod y mater gyda chi ac yn trefnu i gael eich cais fel y gall gael ei ystyried gan farnwr.
Y Llys Gwarchod
Rhif ffôn: 020 7421 8824
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Os ydych yn gwneud cais y tu allan i oriau arferol
Os ydych angen gwneud cais mewn argyfwng pan fydd y Llys Gwarchod ar gau, gallwch ffonio’r rhif argyfwng tu allan i oriau arferol.
Ceisiadau mewn argyfwng tu allan i oriau arferol
Rhif ffôn: 020 7947 6000
Gwybodaeth am gostau galwadau
Os ydych angen mwy o wybodaeth am wneud cais
Cysylltwch â’r llinell gymorth os oes gennych ymholiad cyffredinol - er enghraifft am y broses, ffioedd neu gais sydd eisoes yn bodoli.
Ymholiadau cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 456 4600
Os yw eich cais yn ymwneud â lles personol rhywun (ceisiadau Adran 16)
Cysylltwch â chanolfan ranbarthol eich ardal os yw’ch cais yn ymwneud â lle mae rhywun yn byw neu eu gofal o ddydd i ddydd. Cysylltwch â’r Llys Gwarchod ar gyfer unrhyw beth arall, gan gynnwys triniaeth feddygol difrifol.
Canolfan Cyfiawnder Sifil a Theulu Birmingham
Rhif ffôn: 0121 250 6395
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Canolfan Cyfiawnder Sifil a Theulu Bryste
Rhif ffôn: 0117 366 4830
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Canolfan Cyfiawnder Sifil a Theulu Caerdydd
Rhif ffôn: 0292 037 6400
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Canolfan Llysoedd Cyfun Leeds
Rhif ffôn: 0113 306 2800
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Canolfan Cyfiawnder Sifil Manceinion
Rhif ffôn: 0161 240 5000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Canolfan Llysoedd Cyfun Newcastle
Rhif ffôn: 0191 201 2000
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Llys Sirol a Llys Teulu Reading
Rhif ffôn: 0118 987 0500
Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm
Gwybodaeth am gostau galwadau